Mwynhewch hen luniau Mair Jones o'r Bermo"Roedd ein teulu ni yn gwneud lot efo'r fferis dros y Fawddach flynyddoedd yn ôl. Roedd yna dipyn o gystadleuaeth rhwng y Joneses a'r Morrises (ni oedd y Morrises).
Byddai'r fferis yn mynd yn ôl ac ymlaen o'r Bermo i Fairbourne i fynd am drip ar y trên bach. 'Dwi heb wneud hynny ers blynyddoedd.
Roeddent yn galw fy nhaid, John Morris, yn gapten, er nad oedd o'n un go iawn. Ond roedd yn coxswain i'r bad achub nes iddo fod dros ei saithdegau. Cwch rhwyfo oedd y bad yr adeg yna ac er ei fod yn edrych braidd yn welw, roedd yn rhaid ei fod yn gryf dros ben. Mae'n rhaid iddynt ymddeol yn llawer ifancach y dyddiau yma.
Roedd ganddo feibion (ewythrod fy nhad) a oedd hefyd yn rhan o griw'r bad achub, sef Jac Elis, Iwan Tomos a Ffan Morris. Roedd Willie Morris yn fab i Jac Elis, a gafodd Lord Smith Award am ddewrder wrth achub pobl o'r môr unwaith.
Mi ges i fy ngeni mewn tŷ o'r enw Tan-y-fedw, ar yr High Street. Roedd genedigaethau yn y tŷ yn beth arferol yr adeg honno wrth gwrs. Roedd gen i un brawd, Maldwyn, ac roedd fy nhad yn cadw siop groser yng nghyntedd y tŷ. Mi fyddwn yn ei helpu fel hogan ifanc.
Roeddwn yn bymtheg mlwydd oed pan ddaeth y rhyfel - dwi'n cofio'n union gan fy mod yn frenhines y dref. Yr adeg honno, roeddech yn frenhines am dair blynedd, gyda charnifal go iawn i ddathlu.
Fan hyn, lle mae ffair Las Vegas heddiw oedd yr hen bafiliwn. Drws nesaf roedd y Pavillion Concert Hall ac roeddwn yn ffansîo fy hun fel dipyn o actores gyda'r Barmouth Arts Club. Roedd fy ffrind Nansi hefyd yn actores wych mewn dramâu fel Freda a She Passed Through Lorraine.
Roedd yna ddawns yn yr Assembly Rooms pob wythnos, ac os oedd gennych chi gariad, byddech yn mynd i eistedd ar y balconi neu ddawnsio i A Nightingale Sang in Berkeley Square.
Dwi hefyd yn cofio morwyr Ffrengig yn dod i aros efo ni yn y tŷ - roeddent wastad yn gweiddi 'Up with de Gaulle' - roeddent yn meddwl y byd ohono.
Yn hwyrach yn y rhyfel, daeth yr Officers Cadet Training yma. Byddent yma am ryw dri mis cyn pasio allan fel swyddogion ac roedd y genod i gyd yn cael cariad yr adeg honno - ddaru ambell un briodi!
Ond mi wnes i briodi boi Cymraeg o Bontddu, nid swyddog Saesneg, a 'da ni'n byw yn Nhrem y Don ers 1951. Yn anffodus, dydyn ni ddim yn adnabod gymaint o'n cymdogion erbyn hyn. Maen nhw i gyd yn ddigon clên, ond weithiau yn edrych arnom yn syn wrth i ni siarad yn Gymraeg!"