"Roeddwn newydd gychwyn fel gohebydd yn Ebrill 1949. Ar Medi 21, roeddwn digwydd bod yn cael paned mewn caffi ym Mhorthmadog pan ddaru gyrrwr y bws o Feddgelert i Waunfawr ddod mewn.
Doeddwn i ddim yn clustfeinio, ond roeddwn methu peidio â chlywed ei stori.
Neidiais ar y bws i Feddgelert a darganfod bod y garreg 'ma wedi disgyn drwy do llechi gwesty'r Tywysog Llewelyn; trwy blaster y nenfwd ac i fewn i lawr un o'r stafelloedd fyny grisiau.
Wrth gael mwy o'r stori, ffeindiais fod 'na westeion yn cysgu mewn 11 o'r stafelloedd, ond bod neb wedi clywed dim. Beth sy'n rhyfeddol yw bod y garreg wedi syrthio yn y lolfa, yr unig ystafell wag i fyny grisiau.
Cafodd Mr a Mrs Tilloston, perchnogion y gwesty, eu deffro gan ryw ergyd a chyfarth y ci defaid ond doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd nes i'r forwyn, Kate Williams, ddarganfod y ddifrod yn y bore.
Wrth i mi holi o gwmpas, mi wnes i ddod ar draws llawer iawn o bobl oedd wedi clywed swn ergydion yn ardal Beddgelert a Phorthmadog. Roedd Mr Effraim Williams o Lanfrothen yn effro'r noson yna ac roedd yn gallu dweud wrtha'i yr union eiliad pryd glywodd y synau od; 2.37 y bore.
Cyd-ddigwyddiad anhygoel arall oedd bod Dr Rieu, gwyddonwr oedd yn aelod o'r Gymdeithas Daearyddol Frenhinol yn aros yn y gwesty. Roedd yn gwybod yn syth mai gwibfaen, neu garreg periodite oedd hi.
Roedd o'n deimlad rhyfeddol cyffwrdd ynddi. I lygad anghyfarwydd, roedd y garreg yn debyg iawn i garreg ithfaen, ond bod hoel llosgi arni. Roedd hi maint melon a dwi'n siŵr ei bod yn gynnes pan wnes i afael ynddi.
Mi wnes i ddarganfod bod rhai enfawr wedi syrthio yn America, ond yr unig un arall yng Nghymru oedd un ddaru syrthio yn Ebrill 1931 ar dir Ffarm Coch y Big, Brynaerau, Clynnog. Disgynnodd hi o fewn chwe llath i'r amaethwr Mr J Lloyd Jones oedd yn cerdded ar draws y cae ar y pryd. Daeth o hyd iddi wedi ei chladdu naw modfedd i fewn i'r ddaear, er dim ond maint wy cyffredin, yn pwyso rhyw pum owns, oedd hi. Roedd un Beddgelert yn wyth owns a'r ugain, ac mae hi yn y Guinness Book of Records am yr un fwyaf i ddisgyn i'r ddaear ym Mhrydain, i ni wybod amdani.
Dyfed Evans
Mi fydd neuadd y pentref ar agor rhwng 10 a 6 ar ddydd Sadwrn, 19 Medi, gyda chroeso mawr i unrhyw un sy'n cofio'r digwyddiad ddod draw i rannu eu stori. Mi fydd yna hefyd arddangosfeydd, gweithgareddau a chyfle i enwi meteoryn.