BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bangor

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bangor
Ifor Wyn WilliamsIfor Wyn Williams
Anne Roberts, cymar y diweddar Ifor Wyn Williams sy'n dwyn i gof yrfa'r awdur a'r sgriptiwr a oedd yn brif lenor Eisteddfod Bangor 1971 ac a fu farw yn 1999.
"Brodor o Fangor oedd Ifor Wyn, dyn ei filltir sgwar, a Chymro i'r carn.

Cafoedd ei addysg yn ysgolion Hirael a Friars a'r Coleg Normal. Bu yn brifathro yn Rhosgadfan, Conwy a Llanfairpwll. Yn ystod ei gyfnod yn brifathro yng Nghonwy fe wnaeth safiad dros yr iaith.

Enillodd Ifor y Fedal Ryddiaith, 1971, am ei nofel hanesyddol am Gruffudd ap Cynan sef Gwres o'r Gorllewin.

Enillodd hefyd wobr Nofel Antur yr Eisteddfod yn 1966.

Ysgrifennodd ddramâu, pantomeim a chyfresi ar gyfer radio a theledu, Lleifior i enw ond un, a 14 o nofelau.

Yn ystod ei waeledd olaf, yn dioddef o ganser, yr oedd yn gweithio ar nofel a oedd yn rhannol hunangofiant o'i blentyndod. Gorffennodd y nofel, yn ei lawysgrifen ei hun efo minnau, ei gymar, yn gwneud y gwaith teipio.

Fe aeth y nofel i gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Môn 1999. Ni enillodd y tro yma - roedd yn y dosbarth cyntaf â chanmoliaeth mawr iddi.

Ni welodd yr awdur yr eisteddfod na'i lyfr olaf mewn print.

Fe addewais iddo y buasai'r stori yn cael ei chyhoeddi, ac mi fu, ond heb yr awdur a hynny dair blynedd ar ôl ei farwolaeth. Trueni na welodd y llyfr mewn print."

  • Ceir adolygiad o Lôn Gweunydd, nofel hunangofiannol olaf Ifor Wyn Williams yma


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Theatr


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy