| Mwy gan Yucatan ... Enw: Yucatan
Aelodau: Dilwyn Llwyd, Rhodri Owen, Theston Jones, Derfel Griffiths
O lle: Bala ac Ynys Mon
Pryd wnaethoch chi ffurfio?: 2006
O lle daeth yr enw?: Ardal ym Mecsico di Yucatan. Dwi'n hoff o'r gair mwy na dim.
Uchafbwynt/isafbwynt hyd yma: I fi, mynd i Wlad yr Ia. Ond dim ond fi aeth.
Pwy ydy eich hoff artistiaid?: Mae pawb yn wahanol. Dwi mewn i rywbeth gwahanol bob dydd. Sigur Ros, Cat Power, Rufus Wainwright ac Edith Piaff yr wythnos yma.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?: Mae'n amrywio. Dwi'n trïo bod yn reddfol a trïo chwydu cân allan heb feddwl am y peth. Ella os fyswn i'n meddwl gormod fydde fo'n ffug.
Un peth bach iawn sy'n creu cân, jest un teimlad bach.
Efo pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes?: Meic Stevens a Manuela fy nghariad, ond brecwast burrito faswn i'n licio i fyta. (Rhodri: Eisiau brecwast efo Manuela hefyd, neu Morrissey.)
Sut mae'r ardal wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth?: Mae hynna 'di bod yn bwysig iawn wrth i fi sgwennu'r albwm gynta. Dwi 'di trio sgwennu o natur ac o enaid ein gwlad a'n byd. Dwi ddim yn trïo bod yn neb arall, dim ond bod yn wir i fi fy hun am y wlad a'r byd. Lle ydi'r lle gorau yn yr ardal i weld bandiau byw?: Railway Club, Bangor. Lle fyddai eich lle delfrydol i gynnal gig?:
Ar iceberg.
Pwy fyddech chi'n hoffi ei weld yn dod i'ch gigs?: Pobl clên.
Gwefan, os oes ganddoch chi un: www.myspace.com/yucatanambyth
safle we i ddod yn fuan
 |