Sgwrs efo Gethin ac Aneurin yn Sesiwn Fawr DolgellauPerfformiad trydanol y Genod Droog C2 gyda Genod Droog yn y Proms: clipiau a lluniauAelodau: Dyl Mei (Pep Le Pew) Carwyn (DJ Kim De`Bills) Ed Holden (Pep Le Pew) Nei ('South Welian'), Berwyn (Derwyddion).
O lle: Aelodau pwysicaf y band o Borthmadog yn wreiddiol ;0)
Disgrifiwch steil y band: Cymysgedd o roc, pop electroneg, gwerin gyda chanu a rapio.
Pryd wnaethoch chi ffurfio? Bydd y Genod Droog yn flwydd oed ym mharti Nadolig Maes B yng Nghlwb y Rheilffordd Bangor fis Rhagfyr 2006.
Pam/sut ddaru chi ffurfio band: Cyn Eisteddfod Genedlaethol Bangor penderfynom bod angen cic yn nhu ôl y sîn roc Gymraeg. Felly ar ôl trafod cytunodd pawb i fod yn ran o brosiect newydd a chyffroes. Yna ar ôl sesiwn rhannu syniadau datblygodd y prosiect i fod yn fand.
O lle daeth yr enw? Mae'r gair "Droog" Wedi dod o un o ffilmiau enwocaf Stanley Kubrick sef Clockwork Orange. Wrth sillafu'r gair yn y ffordd yma mae'n caniatáu i bobl ddi-Gymraeg ddweud 'Drwg' yn haws. Mae`r "Genod" yn gyfrinach!
Uchafbwynt/isafbwynt hyd yma: Un o uchafbwyntiau'r band oedd cael y cyfle i fynd lawr i dde Ffrainc yn ystod gwyliau'r haf i recordio caneuon mewn stiwdio ynghanol y mynyddoedd. Mae'n rhaid i mi ddweud mai un o'r isafbwyntiau oedd pan ddaeth olwyn ein fan i ffwrdd ar y ffordd nôl o Ffrainc (yn Nhrawsfynydd). Ar ôl teithio 2,800 o filltiroedd daeth yr olwyn i ffwrdd dim ond deg milltir o Borthmadog.
Pwy ydy eich hoff artistiaid: Dyl Mei - Michael Jackson, Kim De 'Bills - Elton John, Ed Holden - Queen, Nei - Stuart Renaults, Geth Ev - Vanta.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?: Fel arfer rydym yn eistedd i lawr mewn cylch ac yn gafael dwylo, cau ein llygaid a jest gadael i`r dychymyg wneud y gwaith.
Efo pa berson enwog fyddech chi'n rhannu eich cornflakes? Efo Nain Blaena!
Sut mae'r ardal wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth? Gan fod hip hop yn ddylanwad cryf yn ein cerddoriaeth, mae'n bwysig eich bod yn sôn am eich gwreiddiau a'ch cefndir. Credaf fod hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein caneuon.
Pe baech chi'n anifail, pa anifail fyddech chi? Carwyn y Stalwyn de!
Lle ydy'r lle gorau yn yr ardal i weld bandiau byw? Does dim llawer o ots ble mae`r gig i fod yn onast. Rydw i wedi DJio mewn ysgubor cyn heddiw ac wedi cael bangar o gig.
Lle fyddai eich lle delfrydol i chwarae: Hoffwn i chwarae ar y lleuad, ond yn anffodus mae ticed return braidd yn ddrud yn ôl bob sôn, ac mae'r gwestai'n afiach.
Pwy fyddech chi'n hoffi ei weld yn dod i'ch gigs? Gan fod digonedd o bobl ifanc yn ymweld â'r Genod pan yn perfformio, fuasai ddim yn Ddroog o beth i weld yr henoed yn dod am ddawns a pharti bob hyn a hyn.
Gwefan: myspace/genoddroog. Mae gan bob aelod o`r band safle My Space unigol hefyd.
Unrhyw beth arall?: Ymmmmmm, parchwch yr henoed!