BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bandiau
Bysedd MelysBysedd Melys
Dyma Rhodri Smith yn siarad ar ran y Bysedd Melys ac i ddweud pryd fydd yr arth ffynci yn deffro o'i gwsg hir.

Enw: Bysedd Melys

Aelodau: Dwi'n chwarae'r drymiau, Gerallt Jones sy'n canu, chwarae'r gitâr a'r allweddellau, Guto Roberts sydd ar y gitâr, Robin Jones ar y bas, Siôn Gwyn ar y trwmped a Gwion Jones ar y sacs.

O le: 'Da ni gyd yn wreiddiol o Sir Fôn, heblaw am Siôn sy'n dod o ochrau Gaernarfon.

Disgrifiwch steil y band: Rhyw fath o roc a ffync.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?: Dwi ddim yn siŵr, blynyddoedd yn ôl yn yr ysgol!

Pam/sut ddaru chi ffurfio band?: Ddaru athro ysgol ein hannog i ni gymryd rhan mewn brwydr y bandiau yn Nhafarn y Rhos. Mae Gwion a'i sacs wedi bod efo ni o'r cychwyn ac wedyn ddaru Siôn ymuno efo ni ar y trwmped - mae'n dda cael sŵn yr horn section.

O lle daeth yr enw?: Cyn-aelod ddaeth fyny efo'r enw, da ni ddim yn siŵr beth mae o'n feddwl ond mae'n swnio'n dda!

Uchafbwynt/isafbwynt hyd yma: Pan gawson ni bedair cân yng nghant uchaf Mawredd Mawr. Hefyd, chwarae yn y Coal Exchange yng Nghaerdydd yn cefnogi Melys.

Roedd chwarae gig yn y Star and Garter ym Manceinion, lle dwi'n byw, hefyd yn wych. Ddaru'r set Gymraeg gael croeso mawr gan y rhai sy'n dod i weld bandiau newydd yna - roedd o'n grêt.

Doedden ni ddim yn rhyw hapus iawn efo'r ail EP ond mae yna un arall ar y gweill.

Pwy ydy eich hoff artistiaid?: Mae gan bawb dâst gwahanol felly dyna pam mae yna gymaint o elfennau gwahanol yn ein cerddoriaeth. Da ni'n licio roc, indi, ska, bluegrass - bob dim.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?: Da ni'n gwneud lot fel grŵp, yn enwedig y geiriau. Mae Gerallt yn dod i fyny efo ryw alaw a da ni i 'gyd yn gweithio o fanna.

Efo pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes?: Kenny Dalgleish - ond fedra i ddim siarad dros yr hogia eraill!

Sut mae'r ardal wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth?: 'Da ni wedi sgwennu cân am draeth, a da ni'n byw ger y traeth! Ond mae'r rhan fwyaf o'n caneuon yn rhai digon gwirion. Da ni ddim mor ddwfn â hynny, ein hoed sy'n dylanwadu fwyaf.

Tasech chi'n anifail, pa anifail fyddech chi?: Arth gan ein bod yn gwneud pethau pob ryw hyn a hyn, wedyn yn mynd mewn i hibernation am amser hir.

Lle fyddai eich lle delfrydol i gynnal gig?: Anfield! Ond jest i fi fysa hynny. Mi fyddai'r lleuad reit dda.

Pwy fyddech chi'n hoffi ei weld yn dod i'ch gigs?: Fyswn i'n licio gweld y super heroes i gyd yn troi fyny - mi fydden nhw'n gallu fflïo o gwmpas.

Gwefan, os oes ganddoch chi un: Myspace - Bysedd Melys



Digwyddiadau
Radio Cymru
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy