Aelodau: Rhian Williams yn canu, Billy Thompson ar y ffidl, Dave 'Taif' Ball ar y bas, Steve Roberts ar dryms a Dave Edwards ar gitâr.
O lle: Bala, er fod rhai aelodau yn dod o'r Bari, Sir Frycheiniog a'r Wirral
Disgrifiwch steil y band: Gyda Dave ar y fretless bass, mae'r sŵn yn eithaf distinctive. 'Dwi weithiau'n chwarae'r ffidil baraton a dwi'n dros-dybio fy hun lot o weithiau i greu effaith cerddorfaol. Felly 'da ni'n roc, gyda gitarau mawr, ffidil electronig a lot o effeithiau eraill - ychydig o gymysgedd! Billy
Pryd wnaethoch chi ffurfio?: 2005
O lle daeth yr enw? Roeddem yn styc am enw felly ddaru Rhian ofyn i'w ffrindiau yn y gwaith am syniadau - a ddaru Dave Earnshaw gynnig Amledd, sef frequency. Diolch Dave! Billy
Uchafbwynt/isafbwynt hyd yma: Dwi'n athrawes yn Ysgol y Berwyn ac mi ddaru ni wneud gig o flaen y plant. Roeddwn yn eithaf nerfus i gychwyn, poeni efallai y byddai'r plant yn ei gweld yn anodd fy mod i'n canu - ond roedd o'n wych. Rhian
Ond yn y gigiau diweddaraf mewn ysgolion neu dafarndai bach, roedd yn rhaid i mi setio'r sain a'r PA i fyny heb fyth digon o amser! Mae'n wych bod yn rhywle fel y Sesiwn Fawr lle dwi ddim yn gorfod gwneud popeth. Billy
Pwy ydy eich hoff artistiaid?: Popeth da! Mae'n anodd ateb hwn gan ein bod mor feddwl-agored. Dwi'n hoffi jazz gan fy mod wedi cael hyfforddiant clasurol ers pan oeddwn yn fachgen bach. Billy
Roedd mam a dad yn gwrando lot ar gerddoriaeth glasurol a wnes i ddim cael diddordeb mewn miwsig arall nes i mi gychwyn band fy hun yn y chweched. Wedyn mi wnes i gychwyn hoffi Blondie, y Cure a'r Smiths. Rhian
Sut ydych chi'n mynd ati i 'sgwennu caneuon? Fi a Rhian sy'n sgwennu'r caneuon, jest wrth eistedd adref yn chwarae'r gitâr, yn sgwennu am fywyd gyda'n gilydd. Billy
Efo pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes? Madonna. Rhian
Steffan Grappelli, ond mae o wedi marw - felly mi fasai'n cyfarfod â fo! Billy
Sut mae'r ardal wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth? Ein cân gyntaf ar Cyfnod Cyntaf yw 'Bod ar wyliau yn dy wlad dy hun' - mae bywyd mor brysur y dyddiau yma, felly mi wnes i 'sgwennu am ba mor lwcus da ni. Tu allan i'r drws ffrynt mae 'na wlad mor brydferth ond weithiau 'da ni ddim yn cael yr amser i'w weld o. Rhian
Tase'r band yn anifail, pa anifail fyddech chi? Jiráff! 'Da ni'n hoff iawn ohonynt ac roedden ni am alw'r label recordiau yn 'Neon Jiráff', ond Thompsound ydy o - ar ôl fy enw i. Billy
Lle fyddai eich lle delfrydol i gynnal gig? Ar ben Cader Idris.
Pwy fyddech chi'n hoffi ei weld yn dod i'ch gigs? Ein teuluoedd.
Gwefan, os oes ganddoch chi un: www.amledd.co.uk/