 |  |  | Sibrydion Meilir Gwynedd o'r Waunfawr sy'n rhannu cyfrinachau'r band a gododd o lwch y Big Leaves - mae'n disgrifio'r band fel un trefnus sy'n ddi-drefn, drum 'n' bass ond araf, o'r gogledd ond hefyd o'r de ... |  |  |
 | Aelodau Dwi'n canu a chwarae'r gitâr, mae Osian fy mrawd ar y dryms a'r allweddellau, mae boi o'r enw Fflos yn chwarae gitâr hefyd ac mae Catfish yn chwarae'r bâs.
O lle Dwi ag Osh yn dod o'r Waunfawr, Caernarfon. Mae Catfish o Gaerdydd a Fflos o orllewin Cymru rhywle. 'Da ni'n fand Gog yn y de!
Pryd wnaethoch chi ffurfio? Cwpl o ddiwrnodau cyn ein gig cyntaf yn TJs yn Eisteddfod Casnewydd yn 2004.
Pam ddaru chi ffurfio band? Am fod gen i ac Osh ganeuon oedd yn rhy dda i beidio eu chwarae!
Gig gwaetha Ddim wedi cael un ofnadwy eto, er fod rhywbeth bach yn mynd o'i le ym mhob gig - ond dyna be sy'n hwyl am gerddoriaeth fyw.
Gig gorau 'Da ni 'mond wedi gwneud dau gig lle mae pawb o'r band yno! Ddaru ni wneud gig gwych yng Nghaernarfon 'Dolig ac roedd hynny'n wych - y lle'n llawn.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi? 'Dwi'n gwrando ar bethau o'r chwedegau fel y Beach Boys a'r Beatles, a hefyd pethau modern. 'Dwi jest wedi prynu CD gan Beans, rapiwr o'r America. Mae mor hawdd cael gafael ar fiwsig ar y we.
Mae gan ein miwsig ni felly lot fawr o ddylanwadau, er ein bod ni'n eithaf gwahanol - drum a bass araf, os oes 'na'r ffasiwn beth!
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon? Fi ag Osh sy'n sgwennu'r caneuon i gyd. Mae o jest yn digwydd ar laptop Osh, yn ei stiwdio Nen yng Nghaerdydd.
Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig? Mae'n dibynnu sut mae hi wedi mynd - trïo cael hwyl efo'r bandiau eraill sydd o gwmpas y lle, cael laff!
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw? John Lennon. Fyswn i'n cael panad efo fo, wedyn mynd i'r pyb efo fo ac mi fydda fo'n prynu peintiau i'r Sibrydion i gyd!
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd? Dwi jest yn teimlo ar hyn o bryd fod ganddo ni steil eithaf unigryw. Mi fydd yn haws i bobl ddweud pan ddaw'r albwm allan, ond allai ddim meddwl am fandiau eraill o Cymreig sy'n gwneud miwsig fel ni. Mae 'na lot o fandiau rap a phop, ond 'da ni'n trïo cyfuno llwyth o bethau.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo? Eliffant. 'Da ni'n cyfansoddi caneuon ac os ydi o'n dal wedi sticio yn ein cof 'chydig o wythnosau wedyn, 'da ni'n mynd ymlaen i'w recordio fo.
O lle ddaeth yr enw? Ddaru o ddod law yn llaw efo'r gân Dafad Ddu. Mae o hefyd yn adlewyrchu ein gyrfa ni - ac mae o'n enw eithaf c?l!
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair: Uchel, di-drefn a threfnus.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai? Da ni eisiau chwarae mewn gw?l ar fynydd Fuji yn Japan. Mi fyddai creu gw?l am ddiwrnod ar draeth yng Nghymru yn wych hefyd - lot o bobl yn dod draw, tywydd yn boeth...
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon? Jest ymlacio - mae'r haul newydd ddod allan yng Nghaerdydd! Fi fydd un o'r unig bobl na fydd allan yn dre fory pan fydd Cymru yn chwarae'r Iwerddon. Mi fydda i yn y stiwdio! Er, dwi'n si?r bydd 'na deledu yn rhywle ac mi wna i fynd allan i ymuno yn y dathlu os cawn ni'r gamp lawn.
 |  |  |
 |  | Mared Llywelyn Morfa Nefyn Pen Llyn Dwi'n ffan mawr o'ch miwsig chi oherwydd rydach chi'n unigryw, a'r bass yn drwm ac yn llusgo, sy'n dod a llond ceg o awyr iach coeliwch neu beidio! O ia, ma'r boi ar y keyboard yn edrach fatha Liam Gallagher yn ei sbectol haul! llio, cwm ystradllyn dwin rili ffan mawr o music chi. Rwyn hoff iawn o Osian a'i ddrymiau delfrydol, mae ei freichiau yn hedfan uwchben y drymiau fel angel! Pob lwc yn y dyfodol hogia! :D xxx Ela Hodgson,morfa bychan road! hoffi'r gerddoriaeth yn fawr! pryd mae eich gig nesa chi? mi ddoi a fy nain gyda mi. mae hi'n ffan mawr o'r un ar y gitar. |  | |
|
|
|