 |  |  | Meinir Gwilym Hoffai hedfan fel y nico dros Baradwys ym Môn - ar ôl rhannu brecwast efo Sali Mali. Dyma gyfrinachau cerddorol Meinir Gwilym. |  |  |
 | Aelodau Fi!
O lle Yn wreiddiol o Langristiolus, Ynys Môn.
Pryd wnaethoch chi ffurfio? Dwi 'di bod yn canu erioed ond mi wnes i ryddhau fy EP gyntaf yn 2002.
Pam ddaru chi ffurfio band? Ro'n i wastad yn sgwennu caneuon ac felly eisiau i bobl eraill eu clywed nhw - beth ydy pwrpas sgwennu caneuon heb gael barn ac ymateb eraill?
Gig gwaetha Pan wnes i golli fy llais ar ôl canu mewn tafarn heb system PA! Roeddwn i'n methu canu am o leiaf wythnos wedyn.
Gig gorau Dwi wedi mwynhau pob un gig dwi 'rioed wedi ei wneud - hyd yn oed yr un gwaetha. O ran y niferoedd o bobl yn y gynulleidfa, Y Faenol ydy'r gorau - mae'n wych cael gymaint o ymateb gan y dorf. Ond mi wnes i hefyd fwynhau G?yl Pen Draw'r Byd, Aberdaron, yn fawr. Roeddwn i'n canu tu allan yn yr haul a phawb yn canu efo fi - roedd yn dda teimlo agosatrwydd y gynulleidfa.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi? Mi fuaswn i'n gallu llenwi'r dudalen efo'r artistiaid dwi'n eu hoffi! Dwi'n licio gymaint o rhai gwahanol.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon? Weithia dwi'n sgwennu caneuon ar y gitâr, weithia ar y piano. Ar adegau eraill mae'r gân yn fy mhen bron yn gyflawn.
Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig? Ffeindio rhywle distaw!
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw? Sali Mali
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd? Do yn sicr - dwi'n credu fod yr ardal lle ti'n cael dy fagu yn ddylanwadol iawn, i fi beth bynnag. Dwi'n teimlo fy ngwreiddiau'n gryf ac mae llefydd yn aml yn bwysig mewn ryw ffordd yn fy ngherddoriaeth - un ai fy nghartref, neu deithio.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo? Nico - dwi'n licio'r nico yn fawr ac mi fuaswn i'n cael hedfan!
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair: Dwi'm yn licio rhoi label ar fy ngherddoriaeth gan nad ydw i eisiau cyfyngu fy hyn byth.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai? Coed Carrog, ym Mharadwys Sir Fôn.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon? Jest ar fin mynd i gyflwyno rhaglen i Radio Cymru gyda Dylan Wyn.
 |  |  |
|
|
|