BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bandiau
MC SaizmundoMC Saizmundo
Mae MC Saizmundo eisiau cael gwared â chastell Caernarfon a sortio problemau parcio'r dref, ond sut cafodd Deian ap Rhisiart enw mor Ewropeaidd i'w alter ego?
Aelodau
Fi, a phwy bynnag sydd o gwmpas.

O lle
Cwm Pennantlliw yn sir Feirionnydd ond bellach dwi'n byw yng Nghaernarfon.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
2001.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Roeddwn i isio deud fy neud. Roedd gen i lot o syniadau ac ro'n i isio i bobl eu clywed.

Gig gwaetha
Heb wneud un eto.

Gig gorau
Gig cynta yn Eisteddfod Meifod, roedd yna buzz da yno.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Eminem, Pep le Pew, MC Mabon, Datblygu a lot o rai eraill - os dwi'n clywed sŵn da dwi eisiau ei iwsio, mi wna i ei bigo fo i fyny.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Dwi'n sgwennu rywbeth sydd yn fy meddwl ar y pryd, yn ei adael ac yna'n dweud wrth Dyl (Mei - cynhyrchydd) be dwi isio ac mae o'n gwneud rhywbeth yn y stiwdio. Fe arfer dwi'n sgwennu ymlaen llaw ond weithiau mae'r creu yn digwydd yn y stiwdio hefyd.

Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig?
Pigo fy nhrwyn a mynd i feddwi.

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Beyonce Knowles.

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Na, dim felly. Lwc ydi o fod gen i ddiddordeb mewn geiriau, wnaeth neb ddysgu hynny imi yn yr ysgol. Mae Llanuwchllyn yn ardal geidwadol iawn - efallai 'mod i wedi rebelio yn erbyn hynny. Ond, mae dad yn dod o Ddyffryn Nantlle a mam o'r de a dwi'n meddwl mai meddylfryd sir Gaernarfon sydd gen i lle mae'r traddodiad yn fwy radicalaidd a coci, mwy 'In yer face'. Wedi dweud hynny, mae'n debyg bod tirwedd a barddoniaeth ardal y Bala yn ddylanwad hefyd.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Cath wyllt.

O lle ddaeth yr enw?
Mae o braidd yn gymhleth, ond alias Eidalaidd o ffugenw arall sy' gen i ydi o.

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Caled, dychanol, du.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Mi faswn i'n chwalu castell Caernarfon ac yn cynnal gig yn y maes parcio fyddai yn ei le fo. Mae angen sortio allan problem parcio'r dre.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Eistedd mewn cadair wrth ymyl bisgedi chocolate chip organig a chaniau cwrw gwag Gruff (ei gyd-letywr).


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Digwyddiadau
Radio Cymru
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy