 |  |  | Di Pravinho Efallai na ddaethon nhw i'r brig yn ail rownd Brwydr y Bandiau C2 ond maen nhw'n cael y wobr gyntaf gan Lleol am eu doniau ateb holiadur. Dylan o Di Pravinho - band sydd â ieuenctid ffôl o'u plaid - sy'n dangos y ffordd. |  |  |
 | Aelodau Twm (gitâr), Dylan (drymiau), Siôn (gitâr a llais), Marc (gitâr fas)
O lle Ardal Eifionydd
Pryd wnaethoch chi ffurfio? Tuag at ddiwedd 2003
Pam ddaru chi ffurfio band? Pam ddim
Gig gwaetha Mae pob un gig Di Pravinho yn brofiad gwyrthiol
Gig gorau Pob gig!
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi? Bob Marley, Anweledig, The Specials, Chillis, Green Day
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon? Dim angen - mae Siôn yn berson creadigol iawn
Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig? Chwarae accordian i roi ein tarantula i gysgu
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw? Mam!
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd? Do oherwydd rydym yn canu yn Gymraeg
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo? Mwnci sydd yn ffwnci
O lle ddaeth yr enw? Un tro tarrodd seren fy mhen a rhoddodd wefr gwefreiddiol o greadigol ac yn sydyn daeth Indian noeth ataf a dweud y geiriau hynod o hyfryd hyn: 'Di Pravinho'
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair: Arbennig o ansbaradigaethus
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai? Yn rhywle lle mae bwyd!
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon? Sgwennu holiadur!
 |  |  |
 |  | Cyfrannwch i'r dudalen hon! |  | |
|
|