BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bandiau
Daniel AmorDaniel Amor
Dyn ei filltir sgwâr ydy Daniel Amor - byddai'n cynnal gig ei freuddwydion yn y cae wrth ymyl ei d?. Hefyd yn aelod o Gabrielle 25, mae'n hoffi dilyn ei drwyn cerddorol ei hun fel artist unigol.
Aelodau
Fi, a phwy bynnag arall.

O lle
Penmachno.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Wedi bod yn gwneud pethau ar ben fy hun ers i Gabrielle 25 ffurfio rhyw dair blynedd yn ôl.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Does dim confines band ar ben fy hun, mae unrhyw un yn gallu chwarae, er enghraifft mi fydda i'n gweithio efo DJ Moonmonkey cyn hir ac ar yr EP a recordiwyd yn Nant-y-Benglog, roedd John Lawrence yn cynhyrchu a chanu. Ac roedd Hefin Huws (gynt o Maffia) yn chwarae ar y sesiwn wnes i i Bethan a Huw hefyd.

Gig gwaetha
Dwi'n mynd yn nyrfys ond dwi ddim yn meddwl mod i erioed wedi gwneud cock-up anferth achos dwi'n practeisio.

Gig gorau
Sesiwn i Bethan a Huw yn Stiwdio Bryn Derwen, Bethesda.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Neil Finn, Neil Young, pobl o'r 70au fel James Taylor ond hefyd yn licio stwff electroneg chilled-out fel Air.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Y gwahaniaeth rhwng sgwennu ar ben fy hun a bod efo'r band ydy mod i'n gallu trefnu'r gân gyfan fy hun a dweud wrth y cynhyrchydd sut dwi eisiau i rwbeth swnio.

Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig?
Ar ôl y gig dwytha mi es i'n syth i Hendre Hall i barti.

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Neil Finn o Crowded House.

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do, andros o lot. Os ydech chi eisiau ysbrydoliaeth, does dim ond angen ichi edrych allan drwy'r ffenest. Mae hynny'n swnio'n pretensious ond mae'n wir. Mae'n bendant yn helpu byw yn fama.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Pysgodyn aur - dwi'n swil a dwi byth yn cofio be dwi'n ei wneud.

O lle ddaeth yr enw?
Gan fy rhieni.

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Chilled-out, acwstig.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Wrth ymyl fy nh?.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Ar ddiwrnod i ffwrdd o'r gwaith achos rydw i'n gweithio ar y penwythnos.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!



Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Digwyddiadau
Radio Cymru
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy