Geiriau Catrin M.S. Davies, cynhyrchydd y rhaglen Y Ddamwain Rygbi, rhan o'r gyfres ddogfen O'r Galon.
Mae'r gyfres hon yn dwyn y gwyliwr i ganol profiadau personol iawn. Yn Y Ddamwain Rygbi mae Bryan 'Yogi' Davies o'r Bala, ei wraig a'i ffrindiau, yn trafod effaith anaf trasig a ddioddefodd ar y cae rygbi wrth chwarae ei gêm olaf un i Glwb Rygbi'r Bala.
Ar ôl blynyddoedd o wasanaeth diflino i'r Clwb, fel chwaraewr a hyfforddwr, roedd Bryan wedi cyhoeddi yn yr ystafell newid cyn gêm olaf y tîm cyntaf yn nhymor 2006-2007 ei fod wedi penderfynu ymddeol fel chwaraewr ac yntau yn 49 oed.
Fe'i gwnaethpwyd yn gapten am y diwrnod ac arweiniodd ei dîm allan ar y cae yn llawn balchder. Ond yn gynnar iawn yn y gêm, chwalodd y sgrym gyntaf, ac fe anafwyd Bryan yn ddifrifol. Mae wedi ei barlysu, ac yn derbyn gofal arbenigol mewn ysbyty yn Southport, ger Lerpwl. Mae'r ychydig eiliadau hynny ar y cae rygbi wedi newid ei fywyd yntau, ei wraig, Sue, a'u plant Ilan a Teleri am byth.
Meddai Lowri Gwilym, Golygydd Cynnwys Ffeithiol S4C, "Mae'r rhaglen yn gofnod o'r trawma i'r teulu a'r gymuned, ac hefyd o agwedd bositif pawb at y broses o ddygymod a symud ymlaen. Mae'n syfrdanol fod Bryan Davies yn medru rhannu ei brofiad mewn ffordd mor athronyddol, a hynny mewn cyfnod mor anodd iddo."
Ffilmiwyd y rhaglen dros gyfnod o rai misoedd, ac mae hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau taith feicio go arbennig a wnaeth y digrifwr a'r cyflwynydd Noson Lawen, a ffrind i Bryan, Dilwyn Morgan. Yn haf 2007 mi feiciodd Dilwyn o Land's End i John O'Groats er mwyn hel arian ar gyfer Cronfa Apêl a sefydlwyd yn yr ardal i gynorthwyo Bryan a'i deulu.
Mae'r gymuned wedi llwyddo i godi £100,000 ar gyfer y Gronfa mewn chwe mis.
"Maen nhw am dalu 'nôl i Bryan," meddai Catrin. "Mae o'n berson mor arbennig. Mae o mor bositif a siriol, ac mae ei deulu hefyd yn anhygoel. Roedd meddyg yn yr ysbyty yn Southport yn dweud wrtha i mai nhw ydy'r bobl fwya' positif mae o erioed wedi dod ar eu traws."
Darlledir Y Ddamwain Rygbi, nos Fawrth, 15 Ionawr, 9.00pm ar S4C a nos Sul, 20 Ionawr, 7.00pm, S4C.