 |  | Bywyd ar fferm yn Y Bala Atgofion Lisa Roberts o'i theulu a'i magwraeth ar fferm ger Y Bala.
"Ges i fy ngeni yn Fferm Frongoch, ond dwi'n byw yn y Bala rwan. Roeddwn wrth fy modd yn tyfu i fyny ar fferm - mi gawsom ni nefoedd o fagwraeth. Digon o le i chwarae; roeddem wrth ein boddau." |  |  |
 | 
 |
Yr efeilliaid Mag a Lisa efo'u mam, Margaret a'u brawd, John Elis, yn Ffair y Bala, 1949
|  | 1234 |  | "Roedd pawb yn mynd i Ffair y Bala ers talwm. Roedd 'na ddwy ffair - un ar Mai 14 i ddathlu'r gwanwyn ac un ar Hydref 25 cyn y gaeaf.
Dyma lun ohonof i a fy ngefaill, Magi - Margaret ac Elisabeth yden ni go iawn ond fel Mag a Lisa fyddai pawb yn ein hadnabod.
Roedd y ffair yn gyffro mawr, gyda phawb yn hel eu pres am hydoedd. Roedd 'na stondinau dillad a llestri, fel ym mhob ffair. Nid oeddem yn mynd i lawer o lefydd felly roedd yn dipyn o drît. Roedd mam yn prynu dillad newydd i ni a dad yn prynu llestri - dwi'n cofio fo'n dod adref gyda llestri te newydd fel sypreis!" Lisa Roberts. |  |
 |  | Cyfrannwch i'r dudalen hon! |  | |
|
|
|