BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Elis Fedw Arian ar y dde yng ngofaint LlanforCymeriadau'r dref
Daeth rhai o haneswyr y Bala i ymweld â Bws y BBC i rannu atgofion am rai o hen gymeriadau'r dref.
Elis a Huw Fedw Arian
Dau frawd oedd Elis a Huw (Elis ar y dde yn y llun uchod). Y nhw oedd y rhai olaf i ddefnyddio ceffylau ar eu fferm ac mae lluniau ohonynt i'w gweld yn Sain Ffagan.

Dwi'n cofio unwaith Mrs Johnson, y ddynes oedd yn byw yn y tŷ mawr, yn dod acw i bedoli ei cheffylau. "Ah Elis," meddai hi. "Just the man I want to see - I need a jockey for the County Show."

"Madam, I'll jump one and you jump the next," meddai fo. Aeth o fyth i'r sioe!' Ron Lloyd

Robin John Lloyd
"Roedd Robin a'i chwaer yn rhedeg busnes llaeth yn y Bala. Byddai'n godro allan yn y cae - yn dal y fuwch a'i godro yn y man a'r lle!

Dwi'n cofio trip band y Bala i Belle Vue ym Manceinion. Roedd Robin yn hoff iawn o fiwsig a dyna fo'n dod efo ni. Mi ddoth fel ag yr oedd o, gyda darnau o 'disiw' dros ei wyneb lle'r oedd wedi torri ei hun yn siafio, gyda wellingtons am ei draed. A dyna sut oedd o yn y ddinas trwy'r dydd!

Roedd hefyd yn mynd rownd y tafarndai yn canu ac ar ôl iddo golli ei wallt, byddai'n rhoi black lead am ei ben i'w batsio fyny. A dyna Robin yn cychwyn chwysu wrth ganu a hwnnw'n rhedeg i lawr ei wyneb o!

Doedd neb yn gwybod lle'r oedd wedi cael ei gladdu, ond roedd fy nhad a finnau wedi torri beddi yn y fynwent acw yn Llanfor ers blynyddoedd. Trwy drugaredd roeddwn yn gwybod ei fod o wedi cael ei gladdu efo'i chwaer, Telynores Tegid fel byddai pawb yn ei hadnabod, ac mae ganddo garreg fedd i'w hun erbyn hyn." Ron Lloyd

Mr Ingham
Mae yna ffynnon tu ôl i'r tai ger y Ganolfan Hamdden ac roeddent yn arfer gwerthu'r dŵr ohono. Beth oedd ynddo fo, Duw a ŵyr, ond dwi'n cofio bod yn sâl fel plentyn a mam a taid yn dweud 'rho ddropyn o Ingman' iddo.

Wedyn mi wnes i ffeindio allan mai'r dŵr yma oedd o, ac mai dyn o'r enw Ingman oedd yn rhedeg y siop lle'r oedd pawb yn ei brynu! Roedd pawb yn credu ym mhwerau'r dŵr yma." Ron Lloyd

Llwyd o'r Bryn
"Roedd yn gymeriad pwysig yn yr ardal. Roedd yn teithio drwy Gymru yn y 1930au - a hynny heb gar. Byddai'n cerdded ar hyd ochr y ffordd yn chwilio am lifft. Nid oedd byth yn codi ei fawd, ond yn edrych ar bobl yn y car, fel petai'n gofyn, 'oes gennych chi le i un arall?'

Maen nhw'n dweud mai fo fathodd y gair 'ffawd heglu' am hitch hiking.

Ffarmwr oedd o go iawn, ond doedd o byth adref. Pan gyhoeddodd lyfr am ei deithiau, ychwanegodd tu fewn i'r clawr, "I Nans am warchod", gan nad oedd o byth adre'!

Ysgrifennodd lyfr arall o'r enw'r 'Pethe'. Dyma'r tro gyntaf i rywun ysgrifennu'r ffurf yma o'r gair, fel y caiff ei ddweud yn y Bala. Does dim 'au' ar ddiwedd gair yn y Bala, ond 'e'." Iwan Bryn Williams

RJ Lloyd Price, Stâd Rhiwlas
Ef sefydlodd y gweithfeydd wisgi yn Frongoch yn y 19eg ganrif. Roedd ganddo gydwybod gymdeithasol ac am greu gwaith yn lleol. Cafodd ambell i fenter aflwyddiannus ond roedd hefyd yn hoff iawn o geffylau.

Betiodd gryn dipyn o gyfoeth y stâd ar un o'i geffylau, Bendigo. A phwy ond RJ Lloyd Price fyse'n penderfynu defnyddio'r arian i greu mausoleum i'w deulu ym Mynwent Llanfor?

Yng nghefn y fynwent mae'r tŷ claddu a dros ben y drws y mae yna bennill;

As to my latter end I go,
to meet my jubilee,
I bless the good horse Bendigo,
who built this tomb for me.

Y sôn oedd ei bod yn ofynnol i'r esgob ddod yna i fendithio'r tŷ claddu ac nid oedd RJ yn siŵr iawn os fyse'r esgob yn edrych yn dda ar y pennill. Felly dywedodd wrth y gweithwyr i droi'r garreg tu chwith tra roedd yn bresennol cyn ei throi'n ôl i ddangos y pennill y diwrnod wedyn!" Llewelyn Gwent

  • Mwy o hanes RJ Lloyd Price
  • Mwy o hanes Stâd y Rhiwlas

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy