| Gwrandewch ar glipiau sain o'r rhaglen: gohebydd Manylu, Anna Marie Robinson, fu'n sgwrsio â rhai o drigolion y dref. Cyfnod y Fictoriaid
Gyda dyfodiad y rheilffordd, roedd Fictoriaid gogledd Lloegr yn falch iawn o dyrru i Fae Colwyn am awyr iach llesol a hwyl ar lan y môr. Roedd cyfoeth y chwyldro diwydiannol yn cael ei wario ar brynu tai mawr yn y dref ac heb hwylustod car, roedd yn lle gwych i aros am bythefnos o wyliau ffasiynol. Roedd 58 o westai a 365 o dai aros ym Mae Colwyn yn y cyfnod ar dref ar ei hanterth fel tref glan môr fel yr eglura Rona Aldridge, Arweinydd Diwylliant Sir Conwy. Stâd Peulwys a'r tŵf yn y boblogaeth Ar ddiwedd y 1970au a'r 1980au bu tŵf ym mhoblogaeth y dref a bu'n rhaid canfod arian i adeiladu stâd dai cyngor ac ysgol newydd i ymateb i'r tŵf hwnnw. Codwyd tai ar gyfer nifer ohonynt ar y stâd newydd ar dir fferm y Peulwys.
Alun Jones oedd prifathro cyntaf Ysgol Tan-y-marian ar y stâd a godwyd mewn lleoliad braf â golygfa fendigedig dros y bae. Dyma atgofion Alun Jones am yr ysgol a'r plant a ddaeth o dan ei ofal, nifer ohonynt o aelwydydd oedd yn mynd a dod o'r ardal ac yn blant oedd wedi cael magwraeth galed. Gwyliau tramor a'r A55
Hedfan i ffwrdd i fwynhau haul tramor mae twristiaid yn ei wneud erbyn hyn a chyda phob teulu bron yn berchen ar gar, mae llai yn mynd ar y trên i'r traeth am wyliau.
Mae llawer o bethau felly wedi newid ym Mae Colwyn ers y 1970au, gan gynnwys dyfodiad yr A55. Ond a yw'r ffordd newydd yn fendith neu'n felltith? Dyma Rona Aldridge, sydd hefyd yn aelod o brosiect Bywyd y Bae - partneriaeth rhwng y cyngor ac asiantaethau lleol sydd eisiau adnewyddu'r dref - i roi ei barn am sut i adfywio'r dref sydd bellach ger y môr yn hytrach nag yn dref glan môr draddodiadol.
Dyfodol Bae Colwyn
Gyda'r dref fel yr oedd wedi dirywio, llawer o siopau wedi cau, a nifer o'r hen dai mawr gwely a brecwast yn fflatiau i bobl â thrafferthion sydd wedi symud i mewn i'r dref, beth am y dyfodol? Nid yw'r cynghorydd tref, Gwyn Huws, byth am adael y dref, er gwaethaf ei thrafferthion. Efallai bod defnydd gwahanol i'r tai mawr tri llawr erbyn hyn, ond 'mae na awyrgylch dda ym Mae Colwyn ac mae glan y môr yn lle gwych meddai'r Cynghorydd Huws
 |