Daeth chwech o bobl sy'n dilyn rhaglen elusen Touchstone 12 i gymryd rhan mewn gweithdy ffotograffiaeth ar gyfer Lleol fel rhan o ymgyrch Yma i Chi BBC Cymru ym Mae Colwyn fis Ebrill a Mai 2007.Elusen sy'n helpu pobl ddigartref sy'n gaeth i alcohol a chyffuriau yw Touchstones 12 ym Mae Colwyn.
Tîm yr Hysbys a'r ffotograffydd o Bontllyfni ger Caernarfon, Dewi Glyn Jones, oedd yn arwain y gweithdy.
Dewiswyd ardal y pier a glan môr Bae Colwyn fel cefndir i'r lluniau a rhoddwyd chwech thema i'r tynwyr lluniau: portreadau, tirlun, gwead, patrwm, bywyd llonydd a golau.
Heb fawr ddim profiad blaenorol o ffotograffiaeth, tynnodd Nathaniel, Paul, Darren, Neil, Carl a Michael luniau trawiadol o'u hamgylchfyd.
Mae'r lluniau ddewisodd Dewi fel y goreuon i'w gweld yn y sioe sleidiau uchod neu cliciwch yma i weld yr holl luniau.
"Mae'r pier yn eiconig i Fae Colwyn o ran hanes y dref fel cyrchfan wyliau," meddai Dewi, "a dyma oedd eu milltir sgwâr y prosiect hwn."
Bu Dewi yn eu hannog i arbrofi, defnyddio onglau gwahanol a thynnu lluniau'n agosach at eu testun. "Mwya'n byd roedden nhw'n ymdopi efo'u pwnc, mwya hyderus roedden nhw'n dod" meddai.
"Daeth bob un ohonyn nhw allan efo delwedd gref - 'dwi ddim yn gwybod am y chwech yn y gweithdy ond mi ges i fy ysbrydoli gan y profiad yn bendant," ychwanegodd.
Er mwyn dangos posibiliadau ffotograffiaeth ac ysbrydoli'r tynwyr lluniau, dangosodd Dewi luniau gan dri ffotograffydd gwahanol cyn cychwyn: gwaith Roy Mehta sydd â chasgliad o waith yn seiliedig ar ddiwylliant trefi gwyliau glan môr fel Blackpool a Brighton; casgliad Richard Billingham, Ray's a Laugh sy'n dogfennu bywyd ei dad alcoholig mewn fflat ym Mirmingham gan ddefnyddio camerâu a ffilm rhad - "Fel oedolion sydd wedi bod mewn trafferth eu hunain, roedd y criw yn uniaethu'n syth efo'r gwaith yma," meddai Dewi.
Y trydydd oedd y ffotograffydd byd enwog Martin Parr sy'n tynnu lluniau swreal o'r byd twristiaeth - "lluniau waci, haniaethol, swreal - mae rhai o'i luniau bron fel mynd ar drip arallfydol" meddai Dewi.
Mae Canolfan Touchstones 12 yn Nhŷ Norfolk ym Mae Colwyn ac maen nhw'n cynnig gwasanaeth preswyl neu wasanaeth dydd i bobl ddigartref sydd yn dioddef o broblemau alcohol a sylweddau eraill.