Sut i gyrraedd
Wrth adael yr A55 ar gyffordd 21, trowch i'r chwith ar Victoria Avenue, yna i'r dde i Ffordd Greenfield ac yna i'r dde unwaith eto, gan ddilyn y lôn i mewn i'r dref.
Prif atyniadau
Mae Bae Colwyn wedi denu miloedd o ymwelwyr dros y blynyddoedd ac mae cynlluniau ar waith i ail-adeiladu'r pier Fictorianaidd oedd mor boblogaidd yn oes aur Bae Colwyn fel tref wyliau.
Mae cyfleusterau chwaraeon yr ardal i'w cael ym Mharc Eirias, gan gynnwys trac athletau, pwll nofio, campfa a chyrtiau gemau pêl.
Yn ogystal â hyn, mae'r mynydd sy'n edrych dros Fae Colwyn yn gartref i deigrod, mwncïod, pengwiniaid a nifer o anifeiliaid egsotig eraill, gan mai un o brif atyniadau'r ardal yw'r Sŵ Mynydd. Mae'r sŵ yma yn chwarae rhan flaenllaw yn yr ymgyrch i ddiogelu nifer o rywogaethau prin, gan gynnwys y wiwer goch.
Cyfeiriadau defnyddiol
Canolfan Hamdden Colwyn
Parc Eirias, Bae Colwyn LL29 8HG
01492 533223
Clwb Athletau Bae Colwyn
01492 548 893
Clwb Criced
Penrhyn Avenue, Rhos on Sea, Bae Colwyn LL28 4LR
01492 544 103
Clwb Pêl-droed Bae Colwyn
Ffordd Llanelian, Hen Golwyn LL29 8UN
01492 514 581
Clwb Rygbi
Brookfield Drive, Rhos-on-Sea, Bae Colwyn LL28 4SU
01492 530 183
Coleg Llandrillo
Ffordd Llandudno, Rhos on Sea, Bae Colwyn LL28 4HZ
01492 546 666
Llyfrgell
Ffordd Woodland West, Bae Colwyn LL29 7DH
01492 532 358
Ysgol Uwchradd Bryn Elian
Windsor Drive, Hen Golwyn LL29 8HU
01492 518 215
Ysbyty Cymunedol Bae Colwyn
Ffordd Hesketh, Bae Colwyn LL29 8AY
01492 515 218