"Cefais fy ngeni a fy magu ar Fferm Teilia, ond doedd hi ddim yn ddigon mawr i fy nghynnal i a fy nhad, felly bu'n rhaid i mi fynd i weithio ar fferm arall. Roeddwn yno tan 1956 nes i mi ymuno ag Octel yn Amlwch i gael mwy o bres. Ffatri creu bromin o'r môr oedd o. Roeddan nhw'n arfer rhoi gwaith i dros 150 o bobl ond mae wedi cau erbyn hyn - bechod mawr. Roedd yn lle da i mi ac mi gefais lot mwy o bres nag oedd ar gael ar y ffermydd. Ond dwi'n dal yn hoffi ffermio. Dwi'n aelod o Gymdeithas Dyrnu yr ardal ac mi fyddwn ni'n cynnal diwrnod dyrnu unwaith y flwyddyn ym mis Medi. Mi fyddwn ni'n aredig y cae, ei hau efo ceirch yna'i dorri efo hen feindar. Ar ôl torri'r ŷd, 'da ni'n ei gario fo mewn i wneud 'daish' ac wedyn yn mynd â hwnnw i'r dyrnwr a'i 'thrasio' fo. Mi fydd gwellt yn dod allan un pen a'r grawn yn dod allan yr ochr arall. Mae'r holl offer 'da ni'n ei ddefnyddio yn hen a 'da ni'n mynd i sioeau bach, yn dangos i bobl sut oedden nhw'n dyrnu yn yr hen ddyddiau. Dwi hefyd yn perthyn i Gymdeithas Aredig Ynys Môn. Fis Medi 2005, rydan ni'n cynnal pencampwriaeth aredig Cymru gyfan yn Sir Fôn - dydyn nhw erioed wedi bod yma o'r blaen a 'da ni'n edrych mlaen. Mi fydd yn cael ei gynnal yn Stâd Bodorgan, ac mi fydd y rhai sy'n ennill yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth y byd.
Mae ganddon ni sawl tractor - y Ffyrgi Bach, sef y Ferguson T20 o 1951, y Ffortiwn Bach, sef y Fortune N o 1941 a'r Massey 35 o 1958. Y fi a'r mab sy'n edrych ar eu holau nhw. Mae'n rhaid i ni fod yn chydig o bopeth, gan gynnwys mecanics! Mae fy mab yn gweithio yn y Mynydd Gwefru yn Llanberis ac mae o wrth ei fodd yn chwarae efo'r tractors - a chwarae ydan ni! Ddaru ni redeg dau Ferguson o Sir Fôn i Coventry ar hyd hen ffyrdd fel yr A5 adeg clwy'r traed a'r genau. Doedden ni methu cynnal diwrnod dyrnu nac aredig felly ddaru ni benderfynu mynd ar great run i Coventry i dynnu sylw at beth oedd yn digwydd ar Ynys Môn a chael lot o hwyl ar y ffordd. Dyma'r unig ddau hen dractor i wneud y siwrne i Coventry ac mi gawsant groeso mawr yn y gweithfeydd tractor yno ar Banner Lane. Mae'r gweithfeydd wedi cael eu chwalu erbyn hyn - maen nhw'n gwneud y tractors yn India rŵan, Coventry ddim yn ddigon da mae'n rhaid. Ddaru ni gasglu £5,000 ar gyfer Tŷ Gobaith yng Nghonwy hefyd wrth yrru i Lanfair ym Muallt ac yn ôl yn yr hen Ferguson - lot o hwyl. 'Da ni'n trïo hudo hogia ifanc a merched hefyd i ddod i aredig. Maen nhw'n dechrau cymryd diddordeb ac yn dŵad yn ara' deg." Cynhelir pencampwriaeth Cymdeithas Aredig Cymru ym Modorgan ar 25 Medi, 2005. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Peter Guthrie, ar 01982 553683.
 |