BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Elizabeth ConollyPrysurdeb y porthladd
Dyma Elizabeth Conolly, a etholwyd yn Faer Amlwch yn 2004, yn hel atgofion am y dref porthladd sydd wedi gweld prysurdeb mawr dros y blynyddoedd.

"Dwi wedi byw yn Amlwch erioed. Roedd fy nhaid, Huw Hughes, yn gapten ar y môr. Cafodd y rhan fwyaf o'r llongau ddaru o weithio arnyn nhw eu hadeiladu yma yn Amlwch.

Dwi'n cofio un tro pan ddaeth un, yr Enterprise, i Amlwch, doedd pobl y dre'n methu cofio'r enw felly ddaru nhw ei galw hi'n y Stemar Fach - a dyna beth oedd hi wedyn yn nheulu mam.

Pan roeddwn i'n ifanc roedd yr harbwr yn brysur iawn, er ei fod yn prysuro eto rŵan gan fod 'na longau pysgota yn dod i mewn i'r cei unwaith eto.

St Tudno

Am flynyddoedd, byddai llong peilot yn dod i'r harbwr, ac yn cael rhywun o fad achub Amlwch i fynd â'r llong o'r cei fan hyn draw i Lerpwl gan eu bod yn adnabod y moroedd rownd fan hyn mor dda. Byddai'r St Seiriol neu'r St Tudno hefyd yn dod i borthladd Amlwch i fynd â phobl ar drip draw i Landudno. Roedd yn cymryd tua awr a hanner i gyrraedd Llandudno, ac wedyn mi fyddai pobl yn mynd am dro ar hyd y prom. Roedd o'r un fath a rŵan, ond ddim mor brysur.

Mi wnes i weithio yn nghantîn Ysgol Syr Thomas Jones am 34 mlynedd ac roedd 'na lawer iawn o helyntion! Dwi hefyd wedi bod yn gynghorydd am flynyddoedd a chefais fy ethol yn Faer ar Amlwch yn 2004.

Mae Amlwch yn gymuned eithaf agos. Mae pethau'n dŵad yn well, er ei bod yn biti fod cymaint o siopau wedi cau - ond mae pethau'n gwella. Mae Cymunedau'n Gyntaf yn trïo gwneud eu gorau, ac maen nhw wedi creu lle hyfforddi draw yn y dre i roi cyfle i bobl ifanc.

Mae 'na hefyd hogyn ifanc, Robyn James, sydd wedi prynu llong fawr, ac mae o'n gobeithio hyfforddi plant i fynd i weithio ar y môr arni. Mae'r llong yn y harbwr yma rŵan ac mae'n werth ei gweld.

Bydd pethau'n well o lawer ymhen deng mlynedd gobeithio."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy