BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nellie Burns ac Owen Davies gydag aelodau eraill Grŵp Anabledd AmlwchAmlwch ers talwm
Bu Owen Davies a Nellie Burns o Grŵp Anabledd Amlwch yn hel atgofion am y dref fel yr oedd yn y dyddiau a fu.
Owen Davies
"Mi roedd na longa yn arfer cario pobl o Borth Amlwch draw i Landudno ers talwm - y St Siriol, St Tudo a'r St Trillo. Dwi'n meddwl mai llonga stêm oeddan nhw ac mi oedd y porthladd yn brysur iawn yr adeg honno.

"Mi ddois i Amlwch i ddysgu yn Ysgol Syr Thomas Jones yn 1952 - roedd yr ysgol wedi agor yn 1949. American design oedd hi ac mi oedd wedi ei hadeiladu ar batrwm oedd yn golygu y galla' hi fod yn ysbyty.

"Roedd pawb yn defnyddio'r trên yr adeg honno - roedd y trên cynta yn gadael am 7.45 y bore, wedyn mi fydda hogiau Amlwch yn dal honno i fynd i'r ysgol yn Llangefni. Roedd plant oed uwchradd yn mynd i Ysgol Llangefni tan 1940 ac wedyn mi agorwyd y Memorial Hall yn Amlwch yn haf 1940 fel ysgol uwchradd ac ar ôl hynny, roedd plant Amlwch, Llaneilian a Chemaes yn mynd i ysgol y Memorial Hall, er bod y chweched yn dal i fynd i Langefni tan ddechrau'r 1950au pan gafodd Ysgol Syr Thomas Jones ei hagor, wedyn mi fydda pawb yn mynd i fanno."

Nellie Burns
"Dwi wedi cael fy ngeni a'n magu at dop Pen Cei ym Mhorth Amlwch. Roeddan ni'n blant tan ein bod ni'n 16 yr adag honno ac mi fydda ni'n mynd allan i grwydro lle oeddan ni'n licio, cyn belled â'n bod ni nôl erbyn 9 o'r gloch y nos.

"Cyn adeiladu tai Craig y Don, enw'r ardal honno oedd Gwaith Hills ac mae na ran o'r dre, Maes William Williams VC, wedi ei enwi ar ôl perthynas imi ddaru ennill medal y Victoria Cross.

"Roedd Porth Amlwch yn brysur ofnadwy ers talwm ac mae'r hanes i gyd i'w weld yn y Boat Club yn y cei - mae'n werth mynd yno."


Cyfrannwch

Stuart Burne
Nain fi yw hi, chware teg, ond yr enw cywir yw Nellie Burne


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy