BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pêl-droed yn Amlwch
Mae digon o gyfle i ieuenctid Amlwch ymuno â thimau pêl-droed lleol fel yr eglura un o'r hyfforddwyr, Andrew Wright, sydd hefyd wedi helpu i gael crysau chwarae newydd sy'n hybu'r Gymraeg.

"Dwi'n helpu i hyfforddi timau ieuenctid pêl-droed Amlwch - y rhai bach o dan saith ac un-ar-ddeg ar y cyd â Richard Jones.

Mae gan Amlwch dimau Juniors hefyd, o dan 9 i 17. Maen nhw i gyd yn chwarae ar faes pêl-droed Ysgol Gynradd Amlwch, ond yn y gaeaf, byddwn i gyd yn ymarfer yn y ganolfan hamdden. 'Da ni'n chwarae yng nghynghrair Ynys Môn, er fod timau eraill o dros y bont yn ymuno â ni hefyd.

Mae'r tîm o dan 11 yn ymarfer rhwng 5.45 a 7pm bob nos Fercher, y rhai o dan 13 ar nos Iau a'r tîm o dan 17 ar hyn o bryd ar ddydd Gwener, rhwng 6 a 7pm. Mae'r rhai o dan 7 yn ymarfer rhwng 9.30 o 10.30am, y tu fewn i'r ganolfan hamdden, ac mae'r tim dan 9 yn cyfarfod rhwng 5pm a 6pm ar ddydd Gwener.

Mae'r tîm dynion yn chwarae yn Lôn Bach - ac mi ddaru nhw ennill cynghrair Ynys Môn yn 2006 ac maen nhw rŵan yn chwarae yng nghynghrair Gwynedd.

Roeddwn yn chwarae pêl-droed i dîm Amlwch fy hun tan ryw dair blynedd yn ôl, pan wnes i gael anaf i fy nghoes. Richard Jones oedd y paramedig ddaeth i fy nhrin ar y cae a ryw chwe mis wedyn mi ofynnodd imi helpu ychydig efo'r timau pêl-droed, ac mi wnes i landio'n gyd-hyfforddwr efo fo!

Mae 'na lot o waith ond pan 'da chi'n ei fwynhau o fwy na'r plant, mae pethau'n iawn! Mae'r rhieni yn gymorth mawr i ni hefyd. Da ni newydd wneud cwrs child welfare efo'r FAW a daeth lot o'r rhieni i gael ychydig o hyfforddiant efo ni.

Dwi'n Gymraeg ail iaith a wastad yn ymarfer fy Nghymraeg gyda staff Bwrdd yr Iaith, ac felly y darganfyddais eu bod am sponsro'r tîm lleol. Cynigiais ein tîm o dan 17 oedd â chrysau newydd heb ddim arnynt. Mae'n drefniant gwych. Mae'n bwysig hybu'r iaith.

Dwi'n dod o Amlwch yn wreiddiol, er imi symud i Ros y Bol yn chwe blwydd oed. Roeddwn yn gallu siarad Cymraeg yn iawn yn yr ysgol gynradd ond wedyn ar ôl cael lot o wersi yn Saesneg yn yr ysgol uwchradd, mi gollais lot ohono. Roeddwn yn dal yn gallu siarad Cymraeg ond wedi colli fy hyder, ond dwi wedi ailymafael ynddo gyda fy swydd yn helpu pobl ifanc gyda Hyfforddiant Parys. Dwi'n ddigon hyderus i gynnal cyfarfodydd yn y Gymraeg rŵan."

Mae manylion cyswllt prif dîm pêl-droed Amlwch ar eu gwefan (ar y dde), ond os hoffech fwy o wybodaeth am y timau ieuenctid, ffoniwch Andrew ar 07725 358279.


Cyfrannwch

Haf Wyn Hughes
Fe ddaeth y peldroediwr Malcolm Allen ar ymweliad ag Amlwch nos Iau 4ydd Hydref, i gynnig hyfforddiant pel-droed trwy gyfrwng y Gymraeg i oedrannau 7 oed ac i'r oedolion. Roedd pawb wedi elwa yn ieithyddol, ac wedi derbyn profiadau newydd yn y maes pel droed. Diolch i bawb oedd yn rhan o'r trefniadau. Gobeithio y gallwn wneud rhywbeth tebyg yn y dyfodol agos.

Haf Wyn, Amlwch
Gan fod yr erthygl yma gan Andrew Wright, fe hoffwn fachu'r cyfle i ddiolch iddo am ei barodrwydd i siarad Cymraeg bob dydd yn ei waith, ac yn y gymdeithas. Ail iaith yw hi iddo, ond trwy fagu hyder mae o bellach yn cyfrannu i bwyllgorau a thrafodaethau. Pob dymuniad da iddo a phawb sy'n gweithio hefo tim pel-droed Amlwch.


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy