BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Abergele
Tri PrinceMynd drot drot
Mae'r rhaglen deledu Rasus wedi gwneud Tir Prince ger Abergele yn enwog ond breuddwyd un dyn lleol sy'n gyfrifol am ei sefydlu. David Senior, un o gyfarwyddwyr y trac rasio, sy'n esbonio'r byd trotian inni.
"Dechreuodd y gamp o drotian (rasio gyda cheffyl a chert) yn y 1850au yn America pan fyddent yn rasio'i gilydd wrth ddosbarthu'r post. Roedd nifer fawr o'r ceffylau oedd yn cymryd rhan yn y chwaraeon dros y degawdau canlynol yn ddisgynyddion i Hambletonian, ceffyl gwych o America. Mae'n rhaid iddyn nhw fod wedi cyrraedd o safon o drotian milltir mewn 2.5 munud.

"Felly ceffylau safonol, nid rhai pedigri (thoroughbred) yw'r ceffylau yn y gamp yma.

"Hwn yw'r chwaraeon ceffylau mwyaf poblogaidd dros y byd - dim ond ym Mhrydain y mae chwaraeon i geffylau pedigri yn fwy poblogaidd.

"Mae'r chwaraeon wedi bod yn boblogaidd yng Nghymru am dros gan mlynedd. Traciau glaswellt sydd yn y rhan fwyaf, heblaw am Tir Prince sy'n un o bedwar trac-bob-tywydd ym Mhrydain. Mae gennym ni hefyd lifoleuadau, felly mae'n bosib rasio yma gyda'r nos.

"Yn draddodiadol, chwaraeon i ffermwyr oedd trotian - rhai oedd efo ceffyl a chert sbâr. Ond erbyn hyn mae llawer o bobl o gefndiroedd gwahanol yn cymryd rhan, gan gynnwys rhai o'r byd neidio ceffylau neu point to point a phobl busnes sy'n mwynhau cymryd rhan mewn gweithgaredd arall. Chwaraeon amaturaidd ydy o ran fwyaf.

"Er hynny, mae 'na wobrau eithaf da i'w ennill. Bydd rhaglen S4C, Rasus, yn dod yn fyw o Dir Prince cyn bo hir ac mi fydd dros £5,000 o wobr ar gael ar y noson - y mwyaf erioed ym myd trotian.

"Billie Williams, trotiwr gwych o'r 1950s, gychwynnodd trac Tir Prince yn y '90au. Roedd yn dad i fy mhartner busnes, Adam Williams, sydd hefyd yn drotiwr. Aeth Billie i'r farchnad mewn car un diwrnod, ei 'swopio' am geffyl a cherdded adref! Syrthiodd mewn cariad efo'r gamp ac roedd yn enwog iawn yn rasys yr hen Bontins ym Mhrestatyn.

"Mae'n wych gweld y rasio o amgylch y trac, yn enwedig wrth sefyll droedfeddi o'r ceffylau - mae'n her fawr."

Cychwynnodd y gyfres nesaf o Rasus ar S4C nos Lun 3 Gorffennaf. Bydd y ras gyntaf fel rhan o'r gyfres o Dir Prince yn cael ei chynnal ar 31 Gorffennaf. Ewch i wefan S4C, www.s4c.co.uk/rasus am ragor o fanylion.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy