"Os ydych yn aros yn Aberdaron, mae'n braf iawn i fynd am dro o amgylch y pentir, reit ar ben draw Llŷn, ac i fyny i Mynydd Mawr. O'i dop, gallwch weld cyn belled â mynyddoedd Wicklow ar ddiwrnod clir, draw i Ynys Enlli ac i lawr at fynyddoedd yr Eifl. 
"Mae'r gylchdaith i gyd ryw wyth milltir, er ei bod yn bosib cwtogi ychydig drwy gymeryd un neu ddwy lôn fach yma ac acw.
"Yn syml, gan gychwyn yn Aberdaron, dilynwch yr arfordir nes cyrraedd Porth Meudwy, lle mae'r cychod yn mynd draw i Ynys Enlli.
"Parhewch nes i chi gyrraedd Pen y Cil - mae'n rhaid gadael llwybr yr arfordir am ychydig fan hyn oherwydd tirlithriad.
"Wrth barhau ar y llwybr ger yr arfordir, byddwch yn cyrraedd Ffynnon Santes Fair, lle ymddangosodd y santes flynyddoedd yn ôl yn ôl y grêd. Mae'n ffynnon eithaf annhebyg hefyd gan ei bod yn bosib cael dŵr ffres ohoni, er ei fod dan lefel y môr ar lanw uchel. "Nid yw'n ddiogel mynd lawr i Ffynnon Santes Fair pan mae'n llanw uchel. Ond gan fod y rhan fwyaf o'r daith yma i fyny ar y clogwyni, mae'n ddigon diogel.
"Wedyn, cerddwch tuag at Mynydd Mawr, heibio i hen stesion gwyliwr y glannau. Mae golygfa fendigedig o Ynys Enlli o fyny fan hyn.
"Byddwch wedyn yn cerdded tua'r gogledd, ac i fyny Mynydd Anelog, y tir uchaf yn yr ardal. "Mae'n bosib i chi gerdded cyn belled â Phorth Oer (Whistling Sands), sy'n draeth poblogaidd.
"Yna, dilynwch y lonydd bach yn ôl i Aberdaron." Simon Logan
 |