BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberdaron
David JonesO dan y môr
Mae deifio o amgylch arfordir Llŷn yn agor byd newydd sbon fel y canfu David Jones o Lanbedrog sy'n aelod o Glwb Tan-ddŵr Llŷn.
"Mae Pen Llŷn yn lle gwych i ddeifio gen ei fod yn benrhyn, felly gallwch fynd i ba bynnag ochr sydd wedi ei gysgodi rhag y gwynt.

Os mai'r ochr ddeheuol sydd orau, byddwn yn deifio o amgylch ynysoedd Tudwal, Porth Neigwl (Hell's Mouth) a Bae Aberdaron. Gall y dŵr ar yr ochr yma fod yn eithaf tywyll oherwydd y silt felly mae wastad yn well deifio adeg llanw isel pan fo'r dŵr yn gliriach.

Mae 'na lot o longddrylliadau oddi ar ochr ddeheuol Pen Llŷn. Er eu bod nhw i gyd wedi dirywio erbyn hyn mae'n lot gwell gan yr anifeiliaid fyw ynddyn nhw nag ar wely tywodlyd a chreigiog y môr. Maen nhw bron fel rîff artiffisial.

Mae'r ochr ogleddol, o Forfa Nefyn i Ynys Enlli, yn greigiog iawn. Er hynny, mae 'na lot o fywyd yn y môr yno, gan gynnwys crancod a chorgimychiaid sy'n cael eu pysgota.

Rydym hefyd yn mynd i ddeifio o amgylch Enlli a draw at y creigiau mawr tu hwnt. Ond rhaid deifio yma pan fo'r amgylchiadau yn iawn gan fod y cerrynt mor gryf.

Morlo yn awyddus i chwarae gyda'r deifiwr Rydyn ni wedi gweld dolffiniaid yn yr ardal yma - ond y peth mwyaf doniol ydy pan fo'r morloi yn penderfynu dod i chwarae. Maen nhw'n gallu cnoi eich masg - a dweud y gwir yn gallu bod yn ychydig o niwsans!

Rydyn ni'n gwneud lot o ddeifio drifft oddi ar Ben Llŷn. Dydych chi ddim yn gorfod gwneud llawer dim ond gadael i'r cerrynt fynd â chi - mae'n bosib mynd yn eithaf cyflym. Gan eich bod yn drifftio'n eithaf pell rhaid cael bwi ar linell sy'n arnofio ar wyneb y môr i'r cwch gael gwybod lle ydan ni.

Deifio drifft ydy'r peth agosaf i hedfan - rydych chi'n cael eich ysgubo trwy'r dŵr heb orfod gwneud dim. Mae rhai wedi mynd braidd yn beryglus o oer, hyd yn oed gyda'r dillad iawn, gan nad ydych yn gwneud llawer o ymdrech corfforol.

Octopus Mi fyddwn ni'n gweld octopws weithiau, er eu bod yn eithaf swil. Unwaith, wrth ddrifftio ar hyd gwaelod y môr, mi welais un yn nofio mewn dyffryn bach, yn procio ei dentaclau i mewn i dyllau i chwilio am fwyd. Roedd o mor anhygoel gweld anifail fel 'na wrth ei waith heb iddo wybod ein bod ni yna.

Ond un o'r pethau mwyaf trist yw'r niwed mae pysgota am sgolop yn ei wneud i wely'r môr, lle mae'r corgimwch yn casglu gyda'r rhai bach.

Mae 'na ardaloedd arbennig sydd o dan reolau cadwraeth ond mae'n amhosib i un swyddog edrych ar ôl holl arfordir Pen Llŷn, yn enwedig pan maen nhw'n gwneud y math yma o bysgota gyda'r nos.

Weithiau, byddwn yn pasio darn o wely'r môr lle maen nhw wedi bod yn carthu ac mae popeth wedi ei ddinistrio. Mae'n dorcalonnus.

Os ydych am ddeifio oddi ar Ben Llŷn, mae'n hanfodol eich bod yn mynd gyda deifwyr profiadol eraill. Fedrwch chi ddim jest neidio i mewn i'r môr, fel mae'n bosib yn y trofannau lle mae'r cerrynt yn wan a'r dŵr yn gynnes a chlir.

Mae ein clwb ni'n cynnig gwersi ar gyfer dechreuwyr a rhai mwy profiadol i sicrhau fod pawb yn cael digon o brofiad. Un o'r problemau mwyaf yw pan fo pobl yn dod nôl o fod dramor - ar ôl cael ychydig o wersi theori, ychydig o brofiad deifio a darn o blastig fel tystysgrif. Dydy'r rhain ddim i fyny i safon y British Sub Aqua Club a ddim yn ddigon da i chi allu neidio i mewn i'r môr yng Nghymru.

Mi ddaru fy ngwraig a finnau gychwyn deifio yn Ynysoedd y Ffilipinos. Ar ôl dod adref mi ddaru ni benderfynu ymuno â'r clwb i gael ychydig mwy o brofiad - ond ddim i ddeifio yn y môr fan hwn. Ond ar ôl profi deifio o gwmpas Pen Llŷn, dydyn ni ddim wedi stopio ac yn mwynhau'n fawr."

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Hanes
Lluniau
Natur


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy