BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Y gynulleidfa yn mwynhauBedwen lyfrau
Mai 2010
Ar benwythnos Calan Mai daeth cynulleidfa gefnogol iawn i ŵyl Bedwen Lyfrau a gynhaliwyd yn Glasdir, Llanrwst.

Roedd criw o 150 yno nos Wener i wrando ar Gari Wyn, Wyn Mel a Myrddin ap Dafydd yn cael eu holi gan Gerallt Pennant a'r gynulleidfa ar y thema 'Mentro yng nghefn gwlad'.

Lansiwyd cyfrol Gari Wyn, 'Byw Busnes' a chyfrol ddathlu 30 mlwyddiant Gwasg Carreg Gwalch 'Y Gwalch, yr Inc a'r Bocsys' ar stondin Bys a Bawd ar y noson a chafodd Dwynwen werthiant da iawn i'r cyfrolau hyn.

Mwynhawyd cyfraniad Tomos Wyn a'i chwe chan - roedd hi'n hyfryd croesawu'r seren ifanc hon yn ei dre ei hun a dathlu ei lwyddiannau diweddar.

Roedd dydd Sadwrn yn llawn bwrlwm hefyd gyda chynifer â 350 o bobl a phlant yn mwynhau y sesiynau gydag awduron, gweithdai a pherfformiadau.

Bydd cyfraniad arbennig Gruff Ellis ar dri chwm Tir Ifan a Thir Eidda yn aros yn y cof yn hir iawn.

Mwynhawyd taith gerdded ddifyr yn nghwmni Bethan Wyn Jones ar hyd glan yr afon.

Roedd yno wledd i'r plantos yn ogystal gydag ymddangosiad Sali Mali, Heini oddi ar Cyw, sesiynau stori Alun yr Arth gyda Morgan Thomas, Gwenno Mair Davies a Tudur Budr, Cerddi lloerig, Gordon Jones yn darllen darn o'r llyfr ' Academi Iwan', Myrddin ap Dafydd a gweithdy gliter Siriol Swyn.

Roedd y lle yn berwi o blant oedd yn amlwg yn mwynhau eu hunain yn fawr.

Uchafbwynt y Fedwen Lyfrau yn Llanrwst ddydd Sadwrn oedd cyflwyno Gwobr y Fedwen am gyfraniad oes ym myd llyfrau i Arianwen Parri.

Wrth gyflwyno'r tlws pren o waith Dorothy Archer i Mrs Parri, dywedodd Gwerfyl Pierce Jones mai peth arbennig o addas oedd cyflwyno'r tlws i un a weithiodd mor ddygn dros y Gymraeg a'i diwydiant llyfrau yn y dref lle gwnaeth hi gymaint o gyfraniad, a lle roedd ei theulu'n parhau i gynnal y traddodiad clodwiw hwnnw.

Er mai o Dy-croes yn Sir Gaerfyrddin y daw Arianwen Parri yn wreiddiol, treuliodd lawer o'i bywyd yn y gogledd, gan ymgartrefu gyda'i gŵr Dafydd yn Llanrwst a magu llond tŷ o blant - gan gynnwys y prifardd a'r cyhoeddwr llyfrau Myrddin ap Dafydd.

Arianwen oedd y gyntaf i fentro agor siop lyfrau Cymraeg benodedig, er gwaetha rhybuddion ei chyfeillion na fyddai defnyddio cymaint o Gymraeg yn ei busnes yn syniad masnachol da.

Profwyd yr amheuwyr yn anghywir oherwydd mae siop lyfrau Cymraeg Llanrwst, Bys a Bawd yn dal i ffynnu Y deyrnged orau i Arianwen Parri oedd y ffaith i siop lyfrau Bys a Bawd, sydd bellach yn eiddo i Dwynwen Berry, werthu cynifer o lyfrau Cymraeg.

Hir y pery ei dylanwad ardderchog ar Ddyffryn Conwy ac ar Gymru, a llongyfarchiadau mawr iddi.

Hon oedd y bumed ŵyl i gael ei chynnal gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru a sefydlwyd naw mlynedd yn ôl gyda chynrychiolwyr o bedair gwasg ar ddeg.

Mae'r ŵyl yn amlwg yn mynd o nerth i nerth a does dim dwywaith gan y trefnwyr mai hon oedd yr ŵyl orau o ran cefnogaeth a gweithgareddau.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy