Er nad oedd yr haul yn tywynnu roedd y daith drwy'r mynyddoedd yn hyfryd. Cafwyd tro bach
annisgwyl oddi ar ein prif
gyfeiriad yng Nghapel Curig i alw yn Nyffryn Mymbyr i weld cartref y diweddar Thomas Firbank, awdur I Bought a Mountain.
Cyn bo hir roeddem wedi cyrraedd Rhug, Corwen, lle roedd yr Arglwyddes Newborough yn aros i'n croes¬awu.
Roedd y rhan fwyaf ohonom wedi ei chyfarfod o'r blaen, ac yn ei chyfri fel un o'n cyfeillion.
Disgwyliwn ei chwmni gyda ni ym Môn gyda hyn.
Ar ôl mwynhau paned o goffi aeth grŵp yng nghwmni Roger, y garddwr o amgy1ch y plas.
Mae o'n ddyn deallus a gallai egluro'r eiconau a thariannau o bob math oedd yn britho'r waliau cadarn.
Dewisiodd rhai, merched yn bennaf, aros gyda Lady Newborough a'r house¬keeper a nhw aeth a ni drwy'r plasdy i weld rhyfeddodau a henebau gwerthfawr o bob math.
Cawsom bryd dymunol ganol dydd mewn gwesty heb fod nepell - hwnnw'n adeilad anghyffredin wedi ei godi o gerrig ac yn boblogaidd iawn, yn yr ardal i briodasau crand!
Ymlaen a ni wedyn i Gapel Stad Rhug sydd bellach yng ngofal CADW ac yn llawn o hanes a chreiriau Stad Newborough.
Roedd hi'n amser troi'n ôl am Fôn bellach ar hyd ffordd wahanol drwy Ddyffryn Conwy gan aros am baned a sgon yn 'Amser Da' , Llanrwst, lle cafwyd croeso cyfeillgar eto gan y perchennog Dafydd ap Deiniol, sydd yn enwog oherwydd ei gwmni 'Blas ar Fywyd' .
Dyna i chi ddiwrnod a hanner a hynny drwy drefniant manwl a chysylltiadau eang Lindy. Rydym yn aruthrol o ddio1chgar iddi!!
Ers hynny rydym wedi cael croeso cynnes a Bore Coffi yn ngardd hyfryd Eleanor Stevens a John yn Parc Newydd, Rhydwyn. Diolch yn dalpiau iddyn nhw hefyd!
Ydi hyn wedi codi blas arnoch chi bensiynwyr. Rydym yn cwrdd bob bore Mawrth
rhwng 10-11 o'r gloch yn y Tŷ Coffi, ac mae croeso cynnes i bawb dros 60 oed.