| Ac fe gafodd Llŷr Gwyn Lewis ganmoliaeth uchel iawn gan y ddau feirniad, Gwenallt Llwyd Ifan a Fflur Dafydd. 'Tonnau' oedd y testun ac fe sgwennodd Llŷr awdl yn cymharu taith bywyd i fordaith - weithiau'n hwylio'n braf, dro arall yn gorfod dygymod â stormydd enbyd. Roedd 19 wedi cystadlu a hynny am gadair go arbennig. Roedd wedi cael ei chyflwyno i'r Eisteddfod gan deulu y diweddar Dic Jones a'i chynllunio gan Glan Rees, ffrind agos i'r cyn-archdderwydd. "Roedd ennill y gadair arbennig yma yn anrhydedd o'r mwya," meddai Llŷr, sy'n 23 oed ac yn gwneud MA yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen ar ôl graddio y llynedd yng Nghaerdydd.
"0 gofio bod Dic Jones wedi ennill cadair yr Urdd bum gwaith yn olynol ddiwedd y 50au, a bod ei deulu ac un o'i ffrindiau yn gyfrifol amdani eleni, roedd cael cipio cadair Ceredigion yn gryn fraint." Mae Llŷr, cyn ddisgybl yn Ysgol y Gelli a Syr Hugh, wedi ennill cadair y Steddfod Ryng-golegol ddwywaith yn y gorffennol.
Bu hefyd yn actio rhan Chris yn 'Rownd a Rownd' am ddwy gyfres. Fe geisiodd am gadair yr Urdd y llynedd hefyd ond bryd hynny doedd o ddim yn y dosbarth cyntaf.
"Mae'n werth cystadlu er mwyn cael beirniadaeth," meddai Llŷr, "a chymryd sylw o'r hyn mae'r beirniaid yn ei ddweud."
Mae'n amlwg iddo gymryd mwy na sylw o'r
sylwadau a gafodd y llynedd
llongyfarchiadau mawr iddo. Papur Dre
 |