Darlledwyr lleol Bu tîm golygyddol papur Eco'r Wyddfa yn cyfrannu at raglen newyddion Post Cyntaf y BBC gyda Garry Owen fore Iau, 14 Rhagfyr 2006, fel rhan o daith y rhaglen foreol gyda phapurau bro drwy Gymru.
Geraint Elis, cadeirydd pwyllgor Eco'r Wyddfa, oedd yn adolygu'r papurau ar y Post Cyntaf. Wrth ei waith bob dydd mae Geraint yn bennaeth Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ynys Môn ac yn byw ym Methel.
Roedd yng nghyfarfod cyntaf sefydlu'r papur bron 30 mlynedd yn ôl: "Roedd Llais Ogwan a rhai papurau eraill o gwmpas bryd hynny," meddai "ac roedden ni eisiau ymuno yn y symudiad hwnnw ac yn meddwl y byddai'n briodol ar gyfer bro'r Eco.
"Dalgylch Ysgol Brynrefail oedd y dalgylch gwreiddiol ac ychwanegwyd Caeathro a Waunfawr wedyn. Mae'r plygu yn digwydd mewn pentref gwahanol bob mis - fel bod pob pentref yn cael y cyfrifoldeb am fis bob blwyddyn."