Diwrnod Celf i Blant Bu disgyblion o Ysgol Tudno, Ysgol Morfa Rhianedd ac Ysgol Ffordd Dyffryn yn creu eu fersiwn eu hunain o weithiau celf Siapaneaidd hynafol i ddathlu Diwrnod Celf i Blant ar 1 Gorffennaf.
Ar ôl ymweliad ag Arddangosfa Llandudno i weld yr argraffiadau hynafol aeth rhai o'r plant o ati i greu eu gweithiau celf gyda'r artist Steffan Jones-Hughes.
Dyma gip ar y broses gyda phlant o Ysgol Tudno.
I ddechrau aeth y plant i weld casgliad Chardon o argraffiadau Siapaneaidd yn Arddangosfa Llandudno.