Gwobrau RAP 2005 Noson bandiau'r gogledd oedd hi yn chweched seremoni Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru a gynhaliwyd ym Mangor nos Sadwrn, 19 Chwefror 2005.
Ymysg y llu enillwyr o'r ardal roedd Alun Tan Lan, Frizbee, Anweledig, Pep Le Pew ac Elin Fflur a chafodd Toni Schiavone ei anrhydeddu am ei gyfraniad arbennig i'r sîn.