| Roedd May yn un o ffans pennaf y canwr a'r cyflwynydd Frank Hennessy ac arferai lythyru'n gyson gyda chyflwynwyr Radio Wales a Radio Cymru. Galwodd Frank heibio i'w gweld ar ei ffordd i gyngerdd gyda Meinir Gwilym yng Nghanolfan Ucheldre i nodi diwedd wythnos o ddarllediadau a digwyddiadau gan BBC Radio Wales yn y dref ym mis Chwefror 2005. Ymunodd i roi tinc ar y piano am y tro cyntaf ers 30 mlynedd wrth i Frank a gweddill yr Hennessys - Dave Burns a Iolo Jones - roi cyngerdd arbennig iddi yn ei pharlwr ffrynt. Bu farw yn 96 oed ym mis Ebrill 2006 - bydd colled fawr ar ei hôl ymysg staff ei hoff raglenni ar BBC Radio Wales a Radio Cymru.
 |