| "Cafodd deg o gamerâu taflu-i-ffwrdd eu dosbarthu ymysg pobl y cylch a, chwe mis yn ddiweddarach, fe gawson ni naw camera yn ôl, yn llawn lluniau gwych. "Gofynnwyd i bobl dynnu dau lun o rywbeth neu rywun oedd â chysylltiad â Llanrwst, ac yna i basio'r camera ymlaen i rywun arall. Mi gawson ni groesdoriad o bobl sy'n byw neu'n gweithio yn y gymuned, yn bobl y dref a'r wlad, yr hen a'r ifanc. "Maen nhw'n rhoi golwg gyfoes ar Lanrwst ac yn adlewyrchu cymeriad y dref," meddai. Dyma ddetholiad o'r lluniau ddaeth i law:
 |