Diwrnod Agored BBC Cymru Daeth dros 200 o bobl i ddiwrnod agored BBC Cymru ym Mangor ddydd Sadwrn 19 Mehefin gan gael cyfle i ddarllen y newyddion, sylwebu, cymryd rhan mewn drama sebon, syrffio gwefannau'r BBC a chwrdd â chyflwynwyr a staff.
Enillydd y cwis ar-lein a gynhaliwyd ar y bws yn ystod y dydd oedd Emma Tuck o Gaergybi sy'n ennill radio weindio solar. Yn ail allan o'r het mae Sefa Ahiaku a Llinor Roberts; mae'r ddau'n derbyn llyfr yr un. Llongyfarchiadau!