 |  | Cân o Gymorth Daeth rhai o sêr ifanc byd cerddoriaeth gyfoes Cymru at ei gilydd i godi arian i apêl tsunami de ddwyrain Asia yng nghyngerdd Cân o Gymorth yn Theatr Gogledd Cymru, Llandudno, ar 29 Ionawr. |  |  |
 | Ymysg yr artistiaid roedd Meinir Gwilym, Sara Mai a'r Moniars, Frizbee, Maharishi, Brigyn, Elin Fflur, Tara Bethan, Estella a Sian Alderton. Y trefnydd oedd Mici Plwm ac yn arwain ar y llwyfan, cyflwynwyr Radio Cymru, Steve a Terwyn gydag Owain Gwilym yn cyflwyno'r darllediad byw.
 |  |  |  |
|

|