 |  | Barddoniaeth a llechi yn Llanberis Bu plant o ysgolion cynradd lleol yn dysgu am hanes y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru ac ymarfer eu sgiliau 'sgwennu yn ystod Wythnos Barddoniaeth yn Amgueddfa Lechi Llanberis. |  |  |
 | Edrychwch ar luniau o ymweliad dwy o'r ysgolion - Ysgol Pencarnisiog, Ynys Môn, ac Ysgol Dolbadarn, Llanberis - a darllenwch y cerddi a gyfansoddodd y plant gyda help y beirdd Iwan Llwyd, Gwyneth Glyn, Meirion McIntyre Huws a Myrddin ap Dafydd.
 |  |  |  |
 | 
 |
Plant Ysgol Gynradd Pencarnisiog a fu'n barddoni gyda chymorth Iwan Llwyd a Gwyneth Glyn. Enw'r gerdd wnaethon nhw ei chreu oedd Y Streic.
|  | 123456789 |  | Y Streic Mae'n beryg rhwng Padarn a Pheris, mae'n aeaf y Gilfach Ddu, Mae'r hogia'n cwyno'n y caban a'r gegin yn wag yn y ty: "Mae'n bryd i ni roi'n harfau i lawr, a herio'r mistar yn y plasdy mawr!"Ffarwél i'r llwch ac i'r llechi, ffarwél i'r hen gyllell fach, Ffarwél i'r ffowndri a'r efail a'r holl beiriannau a'u strach - "Mae'n hundeb ni yn ddigon cry', ac ni fydd bradwr yn y ty!" Ond mae'n gafael ym Mhencarnisiog a'r un geiniog ym mhoced y gwr, mae'n llusgo yn ôl am y chwarel cyn bod rhwd ar yr olwyn ddwr: "rhyw ddydd cawn wared ar dy lwch a rhydd fydd cân yr hen afon Hwch!" Bl. 3, 4, 5, a 6, Ysgol Pencarnisiog gyda Gwyneth Glyn ac Iwan Llwyd Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, 10 Mawrth 2005 |  |
|

|