 |
 |  |  Hen daid Jeremiah, Jeremiah Williams, cloddiwr aur cynta'r teulu (naill ai yng Ngwynfynydd neu'r Clogau). Wedi ei eni yn Hafod-y-Fedw, Llanelltyd. Priododd Mary Williams yn 1878. |  |  Hen nain Jeremiah, Mary Williams, a'i merch Mary Elizabeth a dau o'i phlant o flaen eu cartref tua 1907. |  |  |  |  David Williams, ail ŵr Mary Elizabeth, chwaer i Huw Williams, taid Jeremiah, yn casglu gwlân o ffermydd ar y ffordd o'r Bermo i Harlech (gyferbyn â Thŷ Nant a Hendre Clochydd, Llanaber). |  |  Sara Ellen Williams a Huw Williams, nain a thaid Jeremiah Williams, a thri o'u plant - Robert, Jeremiah a John ar ddechrau'r 20fed ganrif. |  |  |  |  Jeremiah Williams arall - mab Jeremiah a Mary Williams Hafod-y-Fedw. Bu'n byw yng Nghanada am gyfnod. |  |  Lewis Williams, mab arall i Jeremiah a Mary Williams a aeth i Golorado, America yn 1902 i weithio yng ngwaith aur Russel Gulch. |  |  |  |  Mab arall Jeremiah a Mary a thad y Jeremiah presennol, John Williams (chwith), yn dod allan o waith aur y Clogau, gyda'i bartner Hugh Edwards tua 1950-60. |  |  Jeremiah Williams, ail o'r chwith gyda'i frawd John, ei fam Beatrice a'i dad John gyda dau ffrind tua 1949. |  |  |  |
|

|