BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y cyn forwr, Gwyn Pritchard.Hogia'r Welsh Navy
Bu dwy raglen ar BBC Radio Cymru yn 2005 yn dilyn hynt a helynt Cymry a aeth, nôl yn y pumdegau a'r chwedegau, i ddilyn gyrfa ar y môr.
Ar hyd y canrifoedd, bu tyniad at y môr ym mêr esgyrn nifer o fechgyn Cymru - gyda'i addewidion o wledydd dieithr, profiadau egsotig ac anturiaethau cyffrous. Ac yn wir, nôl yn y pumdegau a'r chwedegau, cymaint oedd nifer yr hogiau Cymraeg aeth i weithio ar y Blue Funnel Line yn Lerpwl fel iddi gael ei hail-enwi ar lafar yn Welsh Navy.

Roedd y gyfres o ddwy raglen ar BBC Radio Cymru, Hogiau'r Welsh Navy yn adrodd hanesion y rhai o ogledd Cymru a brofodd ryfeddodau ar y Blue Funnel Line, yn eu geiriau eu hunain.

Roedd y gyfres yn adrodd sut aeth llawer o'r hogiau, rhai mor ifanc â 16 oed, dros y byd i gyd, yng nghwmni bechgyn tebyg iddyn nhw eu hunain, o Sir Fôn, Pen Llŷn a gweddill gogledd orllewin Cymru.

Roedd nifer wedi gweld bechgyn hŷn na nhw oedd eisoes yn gweithio ar y llongau, yn dychwelyd i'w pentrefi a threfi, gyda lliw haul, pres yn eu pocedi ac, yn fwy na dim, profiadau na allai'r rhan fwyaf o gefn gwlad Cymru ond breuddwydio amdanyn nhw. Yn sicr, rhamant ac antur a ddenodd lawer i fywyd ar y môr, ac os oedd y bywyd hwnnw i'w gael yng nghwmni Cymry Cymraeg fel y nhw eu hunain, gorau oll.

"O'n i 'di meddwl mynd i'r môr erioed, ers yn blentyn," meddai Dylan Parry o Waunfawr yn wreiddiol, ond rŵan yn byw yn y Felinheli.

"Ac mi ddaeth yna ryw cefnder i mi lawr o Lerpwl ac roedd o'n deud lle mor dda oedd ar y Blue Funnel a gymaint o hogiau Cymraeg oedd yn hwylio hefo'r cwmni. Ac es i fyny i Birkenhead - lle o'r enw Odyssey Works - a phan es i mewn drwy'r drws y boi cyntaf i nghyfarch i oedd Cymro o'r enw Mr Griffiths ac oedd pawb yn anelu tuag ato fo i drïo cael llong dda..."

Profiad tebyg gafodd Gareth Jones o Gaergeiliog: "Mi ddois i ar y Blue Funnel a'i joinio hi yn Birkenhead a ffeindio bod yna lot iawn o ddynion Cymraeg," meddai. "Y peth cynta' oeddech chi yn weld oedd dynion o Fangor, Pwllheli ac Amlwch ar y llong."

Ac i lawer oedd erioed wedi bod ymhellach na'u milltir sgwâr, roedd y teithiau yn rhai maith a rhyfeddol, wrth iddyn nhw fynd i'r dwyrain pell yn hel a chludo nwyddau.

Roedd yn sicr yn gyfle i weld llefydd na fyddent erioed wedi eu gweld oni bai iddyn nhw ddewis y llwybr gwaith hwn, fel yr eglura Tony Jones o Rhiw, Llŷn.

"Gadael Birkenhead i Curacao, am bunker - dŵr ac oel - drwy'r Panama Canal ar draws y Môr Tawel a thri porthladd yn Japan - Yokohama, Nagoya a Kobe. Wedyn oeddan ni yn mynd i Pusan yn Korea, Taiwan... ac wedyn oeddan ni yn Hong Kong, the jewel of the east, y porthladd gorau gen i yn y dwyrain pell, wedyn Singapore, Port Sweatenham a Ceylon wedyn i ddarfod llwytho'r llong hefo te, mewn chests - os oedd y te'n ysgafn ac yn mynd ar y top - Cape Town neu Durban wedyn i gael bunker eto a chyrraedd nôl a docio yn Lerpwl."

Roedd y gwaith ar y llong yn aml yn galed, gyda'r hogiau ifanc yn gweithio ar y dec, yn peintio, crafu, golchi, sgwrio a chario. Ac roedd y chwarae yn galed hefyd, yn ôl rhai o'r storïau digon mentrus gaiff eu hadrodd gan bobol fel Michael Hughes o Borthmadog a gafodd ei fygwth gyda gwn a'i glymu gan fôr-ladron yn dwyn y nwyddau ar fwrdd y llong.

Roedd llawer o gapteiniaid y Blue Funnel yn Gymry, gan gynnwys tad y gyflwynwraig Siân Pari Huws, Gwyn Pari Huws, a dreuliodd yrfa oes ar y môr.

Pan oedd Siân yn ifanc roedd ganddo swydd ar y lan fel Marine Superintendent, ond roedd yn dal i dreulio llawer o amser ar y dŵr. Cafodd Siân ei magu yn Birkenhead ac mae cariad at y môr yn rhywbeth a etifeddodd gan ei thad, a fu farw ddwy flynedd yn ôl.

"Mi fu dad yn gweithio i'r Welsh Navy ei hun yn y 50au," meddai Siân. "Roedd y môr yn ei waed o, a mi ges i a fy nau frawd ein magu ar gychod. Rydyn ni'n dal i gadw cwch dad yn harbwr Caernarfon ac yn ei hwylio'n rheolaidd. Dwi yn hapus iawn ar gychod, am wn ei fod yn dod â fi yn agosach at dad. Mae'n gyfle i ddianc yn tydi? Y rhyddid, a'r antur."

Mae Siân, sydd nawr yn byw ger y Fenai yn Felinheli, yn parhau i hwylio yn aml ac wedi hwylio ar draws yr Iwerydd ar y Tall Ships hefyd.

"Mi es i hwylio hefo fy ffrind o Abersoch i Enlli diwrnod o'r blaen, ar ddiwrnod braf o haf. Be gei di well?"

  • Manylion rhaglen 2
  • Atgofion Meirion Pugh Jones o Ddyffryn Ardudwy
  • Atgofion Dylan Parry o'r Felinheli

  • 0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy