Mae Aaron Evans a'i gyd-haneswyr yn Nhreftadaeth Gwydion, yn benderfynol y caiff pobl Caernarfon wybod am hanes eu tref. Dyma un stori sy'n rhan o'i harddangosfa yn Celtica, Doc Fictoria, dros yr haf.
Mae gennym ni'r rhwyfau gwreiddiol o fad achub Caernarfon. Cafodd ei lansio yn 1866, a pharhaodd tan 1885. Ddaru'r cwch fynd allan 18 gwaith ac achub 37 o bobl.
Pan ddaeth i Gaernarfon yn 1866, roedd y cwch yma yn top of the range. Roedd yn un self-righting, a'r gallu i gymryd a gollwng dŵr heb suddo.
Roedd yna ddeg dyn ar y criw, yn ogystal â'r cocs, ac roeddent i gyd yn byw yn y bythynnod Peilot ar Llanddwyn, gan mai dyna oedd y lle mwyaf cyfleus. Byddent yn saethu canon o Landdwyn pan oedd angen y bad achub; dwi'n credu fod y canon dal yna, ger y bythynnod.
Mae'r rhan rhwng Llanddwyn a Chaernarfon yn un beryglus iawn oherwydd yr holl dywod. Ddaru sawl cwch droi drosodd yn y Fenai fan yna, neu fynd yn styc yn y tywod.
Roedd yn goblyn o beth fod Caernarfon wedi cael y bad achub yma. Pan gyrhaeddodd y cwch yn yr orsaf drenau, roedd 'na orymdaith fawr drwy'r dref, gyda milwyr a channoedd o bobl yn ei hebrwng hi i'r doc.
Ddaru hen ddynes ddienw adael arian i drigolion Caernarfon brynu bad achub; enw'r cwch oedd y John Gray Bell, efallai ar ôl perthynes i'r hen ddynes.
Ar ôl i gyfnod y bad achub ddod i ben, cafodd y rhwyfau ei basio 'mlaen i bysgotwyr a llongwyr lleol ac ar ôl degawdau o gael eu pasio 'mlaen o genhedlaeth i genhedlaeth, daethant i ddwylo un o aelodau Treftadaeth Gwydion.
Hoffai aelodau Treftadaeth Gwydion cael mwy o amser i archwilio'r archifdy i ddarganfod straeon am y bywydau ddaru griw'r cwch achub, ond gan mai amaturiaid ydym, nid oes gennym yr amser.
Ddaru ni sefydlu Treftadaeth Gwydion i ddathlu'r Mileniwm. Nid oedd yna ddim yng Nghaernarfon i ddathlu'r dref a'r bobl heblaw am y castell, felly aethom i'r drefferth i gynhyrchu arddangosfa i adlewyrchu hanes y bobl gyffredin a cheisio sicrhau bod ein trysorau yn aros yn y dref.
Ddaru nhw ddarganfod darnau o aur gwerth cannoedd yn Segontium, ond ddaru o fynd yn syth i'r amgueddfa yng Nghaerdydd ac mae'r arfau o oes Napoleon a gafodd eu darganfod yn y dref yn Lerpwl. Fel athro, alla'i ddim fforddio mynd a'r plant yr holl ffordd lawr i Gaerdydd i ddysgu am hanes Gaernarfon.
Mae lot o bres wedi cael ei wario ar adfywio Doc Fictoria a'r dref, ac ein gobaith ni yw creu canolfan treftadaeth bwrpasol i'r bobl leol ac i ymwelwyr fwynhau. Mae bob tref hanesyddol yn Lloegr efo canolfannau o'r fath ond er bod Caernarfon mor bwysig i hanes Cymru, nid oes dim yma i ddathlu hynny.