BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Hen gwt bad achub Moelfre Dewch am dro i Foelfre
Mae Gwilym Hawes o Farianglas wedi ymddiddori mewn hanes lleol erioed, felly beth sy'n well na rhannu ei straeon efo ymwelwyr â'i fro?

"Dwi wedi ymddiddori yn hanes yr ardal erioed ac fel mae'n digwydd, gofynnodd rhywun i mi fod yn dywysydd ar y teithiau cerdded o amgylch Moelfre. Cafwyd cyfarfodydd i'r tywyswyr wybod beth i'w wneud ac roedd y rhain yn gymorth mawr.

"Ddoe, mi wnes i dywys taith o amgylch y pentref yn sôn am forwyr Moelfre. Mi ddechreuais ger y cwt bad achub, yn sôn am achub yr Excel yn 1927, pan gollwyd capten William Roberts, coxen y bad, ac un o griw yr Excel - roedd yn ddigwyddiad nodedig iawn.

"Yna dwi'n mynd ymlaen i sôn am y llongau glo a fyddai'n dod i mewn i Foelfre - a'r stori am y llong a aeth ar y traeth a phawb yn dod i helpu eu hunain i'r glo! Mae'n beth da dod ag ychydig o hiwmor i'r daith.

Yr Hindlea a'r Royal Charter
"Wedyn rydan ni'n cyrraedd y man lle suddodd yr Hindlea gan mlynedd yn union ar ôl y Royal Charter.

"Yna mi wna'i ddweud ychydig am Ynys Dulas, a chofeb y Royal Charter, a cherdded yn ôl i edrych ar y ddau dŷ lle gwelwyd y Royal Charter mewn trafferthion am y tro cyntaf. Cocyn Isa a Chocyn Ucha oedd enwau'r tai, er eu bod wedi altro erbyn hyn a Trigfa ydy enw Cocyn Isa.

"I lawr wedyn ar hyn Lôn Powdwr - dwi'n meddwl eu bod yn arfer cludo powdwr chwythu i'r chwarel. Heibio'r gofeb fechan ar gyfer y bechgyn fu farw yn y rhyfeloedd. Penderfynodd y pentref wario'r arian ar oleuo Moelfre yn hytrach na chodi cofeb fawr, ac mae enwau'r bechgyn ar y gofgolofn ym Marianglas.

Siop wedi ei henwi ar ôl y morwr a drodd yn 'ganibal', Twm Pen Stryd

Twm Pen Stryd - y 'canibal'
"Dwi'n gorffen gyda hanes Twm Pen Stryd, neu Tomos Lewis. Yn 1874, suddodd ei long heb fod yn bell o'r Cape of Good Hope, gyda bron i 500 o griw ac eraill arno.

"Llosgwyd y llong yn ulw a dim ond dau gwch bach oedd ar ôl yn y môr, gyda ychydig o fewnfudwyr a rhai o'r criw arnynt. Doedd dim dŵr na bwyd ar y llong felly torrodd Twm arddwrn un dyn oedd wedi marw, yfed y gwaed a gwneud i bawb arall wneud hynny hefyd. Roedd ei ysbryd yn benderfynol o fyw.

"Yn y diwedd, ar ôl deng diwrnod - ac er i ddwy long fynd heibio - achubwyd y rheini oedd yn weddill, ond dim ond Twm a dau aelod arall o'r criw ddaeth adref.

"Daeth yn ôl i Foelfre i fyw gyda'i fam a'i chwaer briod. Cafodd ei drin yn iawn gan y papurau newydd. Ni fu sôn amdano fel canibal, ond fel un oedd wedi achub dau ddyn arall.

"Wedyn, pan oedd yn gweithio ar y llongau ym Mangor, syrthiodd darn o lechen ar ei goes a chollodd ei goes. Bu'n cerdded wedi hynny o amgylch Moelfre gyda choes bren - roedd yn gymeriad arbennig iawn. Mae wedi ei gladdu ym mynwent eglwys Llanallgo. A dyna ni, yn ôl yn yr Wylfan.

"Mae llawer o bobl ddieithr yn dod ar y teithiau ac yn eu mwynhau. Dwi wedi ymddeol rŵan ond yn dal yn gallu cerdded! Felly dwi'n mwynhau'n fawr hefyd."

Am ragor o fanylion am y teithiau cerdded, cysylltwch â Gwylfan Moelfre ar 01248 410277.

  • Profiadau'r tywysydd Valmai Rees

  • Achub criw'r Hindlea

  • Suddo'r Royal Charter

  • 0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy