Bywyd yn Llandwrog
Dion: "Doedd na'm gymaint o fomio fan hyn. Roedd 'na efaciwîs wedi dod o Lerpwl, ac roedd y bobl leol yn yr home guard."
Alys: "Ddaru'r mountain rescue cyntaf gychwyn yn Llandwrog achos roedd 'na awyrennau yn dysgu dros Eryri ac felly roedd yn rhaid mynd i'w hachub nhw os oedden nhw yn cael damwain. Ddaru ni fynd i'r maes awyr yn Dinas Dinlle a ddaru ni weld awyrennau a phethau'r mountain rescue, a'r Vampire, awyren o adeg y rhyfel."
Dion: "Roedd y masg nwy yn rîli tyn ac yn drewi ac yn drwm. Dwi wedi dysgu heddiw na faswn i ddim wedi hoffi wedi bod yn y rhyfel gan y byddai wedi bod ychydig yn ofnus. Mi faswn i wedi hoffi byw mewn lle saffach."
Tamaid o fwyd
Catrin: "Mi ddaru ni goginio sgons tatws yn yr ysgol - roedden nhw'n afiach! Yn lle cyraints, roedd 'na lard a tatws! Ar ôl bwyta un, roedden ni'n cael poen bol anferth!
Roeddech chi'n rhoi'r tatws yng gwaelod y powlen, eu mashio nhw a rhoi'r lard i mewn, efo powdwr pobi, llefrith - a rhywbeth arall. Roeddent yn 'ogla'n neis, ond yn blasu'n afiach!
Roedd yn anodd cael cacen siocled adeg y rhyfel, fyswn i ddim wedi gallu byw!
A doedden nhw erioed wedi gweld banana, ac mi wnaeth rhywun fwyta croen y banana unwaith."
Rhys: "Mi faswn i wedi methu siocled hefyd! Ar ffilm welson ni, ddaru ni ddysgu bod plant yn bwyta pen mochyn, ac yna galw'r pen ar ôl eu hathro ysgol! Cocsio mai'r prifathro oedd o!"
Holi nain a taid
Alys: "Roedd fy nain i yn sheltro un noson pan syrthiodd bom ar y stryd, ond wnaeth o ddim ffrwydro. Roedd yn rhaid iddyn nhw ffoi i lawr y ffordd."

Catrin: "Roedd fy nain i yn gweithio yn yr ysbyty yn Aberystwyth ac roedd fy nhaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf."
Lois: "Roedd fy nhaid i yn filwr, a chafodd ei ddal ac aeth yn garcharor a chafodd y Burma Star pan ddaeth adref."
Rhys: "Mi wnes i ffeindio allan am nain yn cael pres yn ystod y rhyfel wrth gadw lojars. Gafodd hi ddau o'r banc yn byw efo hi yn y tŷ ym Mhenygroes."
Gruffydd: "Es i ofyn i fy hen nain ac roedd hi'n 32 yn y rhyfel, mae hi rŵan yn 93. Roedd hi'n gorfod edrych ar ôl ei phlant a gweithio ar y fferm gan mai nid nhw oedd bia'r tŷ - a roedd yn rhaid iddyn nhw rannu eu tŷ efo pobl eraill.
Cafodd Penygroes ei fomio yn y rhyfel. Ddaru'r bom ddisgyn ar y traeth - dwi'n meddwl eu bod nhw wedi lluchio'r bom ar ôl dod nôl o Lerpwl gan fod na un ar ôl. Chafodd neb ei ladd. Ond roedd fy nhaid yn babi ar y pryd - ddaru'r bom ollwng, a'r gwydr yn y tŷ dorri a ddaru fy hen nain redeg i fyny'r grisiau i weld os oedd fy nhaid yn iawn ond roedd o'n cysgu yn ei grud!" Ymweliad Eluned
Dion: "Ddaru Eluned Gyles ddod i siarad efo ni am y rhyfel. Roedd hi'n byw yn Llanllyfni adeg y rhyfel a ddaru hi ddweud wrthon ni am bob dim am ei bywyd pan oedd yn fach. Ddaru hi weld dog fight rhwng awyrennau yn yr awyr uwch ben yr eglwys. Roedden nhw'n hedfan at y mynyddoedd a daeth pawb allan o'r ysgol i weld beth oedd yn digwydd a gweld y ffeit."Gruffydd: "Unwaith ddaru hi weld swastika ar awyren, roedd o mor isel."
Rhys: "Ddaru hi sôn hefyd am y capel, ac am yr efaciwîs oedd yn gorfod dysgu Cymraeg ac yn dysgu geiriau drwg fel 'tin buwch'! I ddechrau doedd yr efaciwîs a phlant y pentref ddim yn ffrindiau, ond ar ôl 'chydig daethant yn ffrindiau. Doedden nhw ddim yn gwybod yr iaith, ond wedyn ddaru nhw ddysgu'r plant i siarad Cymraeg a'r efaciwîs eu dysgu nhw sut i siarad Saesneg."
A beth am y dyfodol?
Pawb: "'Da iawn i bawb wnaeth ymladd yn y rhyfel. Roedden nhw'n ddewr iawn."
Roedd pawb yn gytûn ein bod yn ffrindiau efo'r Almaen rŵan, os nad ydynt yn gwneud dim byd gwirion eto, ac yn sicrhau eu bod yn:
Ffeind i'r IddewonYn garedig ac yn ffrindiau efo pawbDdim yn dewis arweinydd efo mwstash.