BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y cylch gwerthuMart Bryncir - parhâd
Ail-sefydlu
Cynhaliwyd y cyfarfod swyddogol cyntaf i drafod y bwriad o ail-sefydlu'r mart, ar y 4ydd o Fai 2001, yn Neuadd Garndolbenmaen.
Yn bresennol yr oedd Gwynedd Watkin o UAC a Dic Jones o'r N.F.U.-y ddau yn sefyll dros yr un achos. Yn ôl 'Y Ffynnon' (Rhifyn 278, Mai 2001) dan y pennawd 'Dyfodol y Mart' : "...i drafod dyfodol mart Bryncir...daeth tua 150 o ffermwyr ynghyd."

Anfonwyd llythyr at bob cwmni arwerthu yng Ngogledd Cymru yn holi a oedd ganddynt ddiddordeb yn y safle yn Bryncir. Dim ond un cwmni a atebodd, sef y Farmers' Mart yn Nolgellau. Trafodwyd y syniad gyda hwy, a daethpwyd i benderfyniad y byddai gwerthu cyfranddaliadau am leiafswm o bum can punt er mwyn prynu'r safle yn ddechreuad da.

Yn ôl Dic Jones o'r NFU, y syniad am y lleiafswm oedd yr unig beth da i ddod o'r trafodaethau â'r Farmers' Mart, gan iddynt benderfynu tynnu 'nôl ychydig wedyn. Roedd pethau'n edrych yn ddu iawn eto.

Diddorol oedd clywed Dic Jones yn disgrifio yr hyn ddigwyddodd wedyn. Ac yntau yn methu gwybod lle i droi daeth galwad ffon i'w swyddfa yn hwyr un prynhawn. Ar y ffôn yr oedd gŵr ifanc lleol oedd yn awyddus i gyfarfod â Dic yn gyfrinachol. Gwnaed trefniadau iddo ef a chyfaill ddod i Swyddfa'r Undeb ar ôl amser cau. Roedd y cynnig oedd gan John Lloyd Williams a John Hughes, dau fachgen lleol oedd hefyd yn arwerthwyr, yn gweddnewid y sefyllfa.

John Lloyd Williams a John Hughes wrth eu gwaithWedi trafod ac ymchwilio ymhellach aeth y ddau ymlaen i ddatgan eu diddordeb yn y mart ym Mryncir. Dri mis yn ddiweddarach roedd ffermwyr yr ardal wedi prynu gwerth can mil o bunnoedd o gyfranddaliadau, a hwy yn awr oedd biau safle'r mart ym Mryncir. Roedd y ffaith fod isafswm o £500 wedi ei osod ar gyfer cyfranddaliadau yn achubiaeth i'r mart yn ôl Dic Jones.

Byddai casglu symiau llai ac amrywiol wedi gwneud y gweinyddu yn llawer mwy anodd ac yr oedd ef yn grediniol na fyddid wedi llwyddo i godi'r can mil oni bai am y lleiafswm benodwyd. Felly ffermwyr yr ardal oedd piau'r mart erbyn hyn ond perchnogion y busnes oedd Lloyd Williams & Hughes. Gwelwn gofnod o hyn yn 'Y Ffynnon' (Rhifyn 271, Mawrth 2002) dan y pennawd 'Ail Afael yn y Morthwyl' sy'n sôn mai: "Canolfan Arwerthiant Bryncir yw yr enw swyddogol erbyn hyn."

Y mae'r erthygl yn mynd ymlaen i sôn am y sêl gyntaf ym Mryncir ers y cau Digwyddodd ar Ddydd Llun y 4ydd o Fawrth 2002.

Bellach mae mwyafrif yr arwerthiannau yn cael eu cynnal ar Ddydd Llun, ond yn ôl Cadwaladr Owen. W. Davies, eto yn Y Ffynnon, ers talwm: "...bob dydd Iau - (oedd) diwrnod y mart" ac y mae'r hysbysebion yn Yr Herald Gymraeg hefyd yn amrywio eu dyddiau, felly efallai mai peth diweddar yw sefydlu'r mart ar Ddydd Llun.

Dros y blynyddoedd ers ei sefydlu yn 1920, mae hynt a helynt y mart wedi rhedeg ochr yn ochr a thrafferthion a llwyddiannau y byd amaethyddol yn gyffredinol. Da felly yw gweld ei fod yn mynd trwy gyfnod tra llwyddiannus ar y foment a fod y dyfodol hefyd yn argoeli'n dda.

Arwerthiant diweddarYn ystod y flwyddyn ddiwethaf yr wyf i yn bersonol wedi bod mewn ambell i arwerthiant ym Mryncir, ond mae'n debyg mai'r un â mwyaf o sôn amdani y dyddiau yma yw sêl Cwm Pennant. Fel yn yr oesoedd a fu, mae ffermwyr o un ardal sy'n cynnwys dwy neu dair o brif ffermydd yn dod at ei gilydd i gynnal sel eu hunain.

Mae'n debyg mai'r un yw'r gwaed sy'n llifo drwy wythiennau'r defaid a gai eu gwerthu yn Sel Gwm Pennant y dyddiau yma ag yr oedd gan ddefaid Ellis Owen, Cwrt Isaf, flynyddoedd yn ôl. Disgynyddion yw mwyafrif y ffermwyr hefyd, ac fel y defaid y mae eu gwytnwch wedi para drwy'r oesoedd ac maent hyd heddiw i'w gweld yn yr arwerthiannau ym mart Bryncir.

Erthygl fuddugol Rhiannon Mair Huws, 17 oed, o Gricieth - enillydd Tlws yr Ifanc yn Eisteddfod Mynytho, Llŷn 2004. Diolchiadau: Mr Robert Owen, Ymwlch Ganol; Dic Jones, N.F.U.; John Evans, Tŷ Croes; Tom Rees Roberts, Glasfryn Fawr gynt; Yr Herald Gymraeg; Y Ffynnon, Fferm a Thyddyn.

Nôl i'r dechrau


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy