 |  | Llyfrgell y Congress Mae casgliad enfawr o luniau yn Llyfrgell y Congress America yn cynnwys rhai o Gymru. |  |  |
 | Dyma flas o'r lluniau o Gymru sydd gan y llyfrgell. Cawsant i gyd eu cymryd rhwng 1890 a 1900 gan ddefnyddio negatifau monochrom du a gwyn gyda lliw wedi ei ychwanegu hwyrach 'mlaen.
Y bwriad yw rhoi'r cyfle i cyn gymaint o bobl ac sy'n bosib weld casgliad y llyfrgell. "Mae'r set yma llawn cestyll, pistyll a golygfeydd prydferth o dirweddau o Gymru o dros gan mlynedd yn ôl," meddai Jennifer Gavin o'r llyfrgell.
Mi fedrwch chi weld rhagor o luniau o gasgliad Llyfrgell Congress ar y wefan rhannu, Flickr.com.
 |  |  |  |
| 
|