BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Charlotte Williams yn ferch fach gyda'i mamPerthyn
Yr awdur a'r academydd Charlotte Williams sy'n egluro pam fod dysgu am hanes pobl ddu yng ngogledd Cymru wedi gwneud iddi deimlo ei bod yn perthyn.

"Fe gefais i fy magu mewn rhan o'r wlad nad yw'n cael ei chysylltu â phobl ddu. Cefais fy magu mewn tref glan môr gwyn ar arfordir gogledd Cymru.

"Pan oeddwn i'n blentyn yn y chwedegau, doedd dim plant du yn yr ysgol, na phobl ddu yn gweithio mewn siopau nac mewn banciau. Doedd pobl ddu ddim yn dod ar eu gwyliau i Landudno a doedden nhw ddim ar y teledu nac mewn llyfrau oni bai eu bod nhw'n goliwogs neu'n anwariaid. Roedd fy myd i yn wyn iawn, yn glaerwyn.

"Yr unig bobl liw 'dw i'n cofio eu gweld oedd rhai o'r plant a ddeuai i gartref Dr Barnados o dro i dro. Mae'n anodd iawn perthyn pan fo popeth o'ch cwmpas mor wahanol i chi. Dyma pam fod hanes mor bwysig. Dyna pam fod hanes pobl ddu mor bwysig.

"Fe gymerodd lawer iawn o amser i mi gael hyd i hanes cyfoethog y bobl ddu sy'n rhan o'r ardal lle cefais i fy magu. Aeth ffrind â mi i fynwent fach yn Llaneilian uwch ben Bae Colwyn gan dynnu fy sylw at feddau hogiau'r Congo.

"'Dw i'n cofio'n blentyn i Ma sôn bod coleg ar un cyfnod i hogiau duon ym Mae Colwyn ond wnes i ddim meddwl rhyw lawer am y peth. Yn ôl ym 1885, fe gyrhaeddodd dau hogyn bach o Affrica bier Llandudno ar fwrdd y stemar St Tudno ar ôl siwrnai hir dros dir, afonydd a'r môr mawr.

"Hwn oedd dechrau'r cynllun mawr, syniad gwych y Parchedig William Hughes, a chynllun a ddaeth â llawer o Affricanwyr ifanc i Gymru i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth ac i ddysgu crefft.

"Roedd y Parchedig Hughes yn credu y dylid sefydlu colegau fel yr un ym Mae Colwyn i hyfforddi cenhadon yn hytrach nag anfon cenhadon gwyn i fynd drosodd i Affrica i rannu gair Duw gan fod cynifer ohonyn nhw'n marw yng ngwres y Congo. Y bwriad oedd anfon yr hogiau yn ôl i'w gwledydd eu hunain ar ôl eu hyfforddi ac iddyn nhw weithio yno i wareiddio eu pobl.

"Fel hyn, credai'r Parchedig, fyddai neb ym marw gan y byddai'r dynion du yma'n ddigon abl i ddiodde'r gwres a'r newid yn yr hinsawdd oherwydd eu cyfansoddiad corfforol! Ond, fe fu farw llawer iawn ohonyn nhw a chael eu claddu ym Mae Colwyn. Mae'r cerrig beddau yn dyst i gynllun uchelgeisiol ddaeth ag Affrica i Gymru ac roedd y stori wedi bod yn cysgu yn y beddau hyn am flynyddoedd.

"Dychmygwch yr hogiau ifanc yma'n gweithio mewn busnesau bach ym Mae Colwyn - yn yr argraffdai, y fferyllfa, gyda seiri coed a gofaint y dref.

"Dychmygwch nhw'n cerdded i'r eglwys ar hyd y stryd fawr. Meddyliwch am y partïon yng ngerddi'r Institiwt. Meddyliwch am yr anwesu, y cusanu a'r canlyn rhyngddyn nhw â rhai o'r genod lleol. Pobl dduon ym Mae Colwyn a hynny dros ganrif yn ôl. Dw i'n perthyn felly!"

Yr awdur:
Mae Charlotte Williams yn academydd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Sugar and Slate, gan Planet Books ac enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru 2003.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy