BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Harold Williams - ifaciwî sy'n falch iddo ymgartrefu yng Nghricieth.Ail-fyw arswyd rhyfel
Bu rhai o drigolion y gogledd orllewin yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd am eu profiadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn y gyfres Cenhedlaeth y Rhyfel ar BBC Radio Cymru.

Maen nhw yn rhan o'r genhedlaeth a wnaeth fyw drwy brofiadau na all y rhan fwyaf ohonom ond ei ddychmygu, sef arswyd yr Ail Ryfel Byd: pobl a welodd gyfeillion, cyfoedion a châr yn cael eu dadwreiddio, eu hanafu a'u lladd mewn rhyfel.

Ac fel mae'r genhedlaeth hon yn cael ei cholli, mae gwirioneddau rhyfel ac efallai wersi a rhybuddion rhyfel yn pellhau. Bu'r darlledwr o Fangor, Dewi Llwyd, yn clywed am brofiadau amrywiol dros hanner cant o bobl, profiadau dirdynnol, erchyll a theimladwy ond hefyd profiadau llawn gobaith a hanesion am gyd-dynnu a brawdgarwch mewn dyddiau tywyll.

Roedd yr ieuengaf o'r cyfranwyr yn 61 a'r hynaf yn 99 oed, ac mae'r cof yn gryf yn eu meddyliau oll. Trwy'r gyfres clywyd am brofiadau milwyr, morwyr, aelodau o'r llu awyr, carcharorion rhyfel, glöwyr, gweithwyr fferm a ffatri, gwrthwynebwyr cydwybodol, ifaciwîs a phlant ysgol.

Yn y rhaglen gyntaf bu Dewi Llwyd yn siarad gyda'r Parchedig Emrys Wyn Evans (isod) sydd yn wreiddiol o Gaernarfon ac a fu'n aelod o'r llu awyr ac yn garcharor rhyfel a Harold Williams o Gricieth (uchod), sy'n honni iddo elwa gan mai'r rhyfel yw'r rheswm ei fod yn nawr yn byw yng Nghymru. Fe ddaeth i Gymru yn ifaciwî o Lerpwl, ac aros yma.

"Mewn bob drwg mae rhywun yn elwa yn rhywle," meddai. "Peth erchyll ydi rhyfel, dim dwywaith am hynny, mawr neu bach, erchyll ydi rhyfel. Ond dwi'n berson sydd wedi elwa yn sicr oherwydd bod na ryfel ac oherwydd mod i di cael fy ngyrru fel nes i o Loegr i Gymru."

Roedd hi'n gyfres yr oedd Dewi Llwyd yn amlwg yn falch iawn o fod wedi ei gwneud.

Dewi Llwyd yng nghwmni Emrys Jones"Roeddwn i bob amser wedi edmygu'r modd yr oedd dyrnaid o bobl roeddwn i yn eu hadnabod yn bersonol wedi dygymod â dewisiadau mor anodd, cyfrifoldebau mawr a pheryglon aruthrol," meddai.

"Pobl gyffredin yn gorfod delio â sefyllfa gwbl anghyffredin, boed ymhell o gartref neu ar adegau yma yng Nghymru hefyd. Ac ar y cyfan roedd yn well ganddyn nhw beidio ag ymhelaethu gormod - gwell gan lawer oedd cau'r drws ar gyfnod poenus.

"Pan fu farw un o'r cyfeillion yma heb i mi ei holi'n iawn, mi benderfynais geisio gwneud iawn am hynny drwy fynd ati i roi ar gof a chadw brofiadau gwahanol bobl sy'n cynrychioli cenhedlaeth y rhyfel," meddai.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy