Mae'r curadur, Richard Llewelyn, yn frwdfrydig iawn am y casgliad archeolegol o arddangosion a gafodd ei darganfod mewn ogof ar y Gogarth Fawr. "Mae gennym gasgliad o esgyrn sy'n dyddio nôl 14,000 o flynyddoedd," meddai Richard. "Ddaru nhw gael eu darganfod yn Ogof Kendrick, tu ôl i westy'r Empire ar dop Stryd Mostyn.
"Tua chan mlynedd yn ôl, aeth Thomas Kendrick ati i dyrchu'r hen ogof gyda'r syniad o greu atyniad twristaidd. Daeth ar draws yr holl esgyrn yma a'u lluchio allan, cyn meddwl efallai bod yna rhyw fath o werth iddynt!"
Mae yna esgyrn dynol sy'n dyddio'n ôl 14,000 o flynydoedd, ond nid yw'r arbenigwyr yn credu eu bod wedi byw yn yr ogof. "Nid oes yna bentyrrau ysbail tu allan; esgyrn anifeiliaid wedi cael eu lluchio allan ar ôl bwyta. Maen nhw'n meddwl felly mai lle arbennig ar gyfer claddu'r meirw oedd o. Roedd yr hyn sydd wedi cael eu claddu efo nhw felly yn bwysig iawn iddynt.," meddai Richard. Un beth pwysig iawn gafodd ei ddarganfod yna oedd safn ceffyl gyda phatrymau igam-ogam drosto. Mae'r gwrthrych yma i'w weld yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain gan eu bod yn credu mai dyma un o'r enghreifftiau cynharaf o waith celf. "Roedd o yma i'w weld am gyfnod," meddai Richard, "Ond rŵan mae o yn ôl yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, felly rydym wedi creu hologram ohono yma i'w weld." Mae yna hefyd esgyrn gyda marciau arbennig arnynt. "Rhyw fath o 'tally' yw'r rhain" dywedodd Richard. "Nid ydym yn hollol siŵr i beth oreddent yn cael eu defnyddio - i gyfri, efallai, gan fod rhywun wedi gwneud marciau penodol arnynt.
"Mae yna hefyd gyrn ceirw oedd yn cael eu defnyddio fel nodwyddau, a chrafell er mwyn trin crwyn anifeiliaid."
Mae yna hefyd gasgliad o wrthrychau Rhufeinig ac arddangosfeydd am Landudno yn yr Oes Fictoraidd a'r Ail Rhyfel Byd yn yr amgueddfa. Oriau agor: pob dydd heblaw am ddydd Llun, 10.30-1 a 2-5 yn yr haf, a dydd Mawrth i ddydd Sadwrn, 1.30-4.30 yn y gaeaf.
Cyfeiriad: 17-19, Gloddaeth St, Llandudno, Gwynedd LL30 Rhif Ffôn:: 01492 876517|
 |