BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Amgueddfa Gwynedd
Fel un sy'n gwasanaethu sir Gwynedd, mae'r amgueddfa yma ym Mangor yn llawn dop o eitemau sy'n adlewyrchu cymdeithas ac archeoleg yr ardal.

Ffrog wedi ei wneud allan o frethyn metal. Cychwynnwyd Amgueddfa Gwynedd yn 1894, yr un flwyddyn a'r brifysgol. Gyda chyllid a'r dymuniad iddynt fynd allan i'r gymuned a hel eitemau diddorol er mwyn addysgu'r myfyrwyr newydd, llwyddodd staff y coleg gasglu sawl beth oedd yn adlewyrchu'r bywyd gwledig.

Meddai curadur yr amgueddfa, Esther Roberts, "Roedd yr hen ffordd o fyw yng nghefn gwlad Cymru yn diflannu, ac felly aeth y brifysgol allan i'r pentrefi a'r ffermydd i geisio ei recordio fo. Dyma pam mae gan yr amgueddfa yma cymaint o ddodrefn a dilladau o'r ardal."

Fel lot sydd i'w weld ar y llawr cyntaf, roedd y ffrog yma yn rhan o ddyddiau cynnar casgliad yr amgueddfa. Meddai Esther, "daw'r dilledyn yma o ganol y 19eg ganrif. Mi gawsom y ffrog gan Elen Edwards o Rosmeirch a chaiff ei wneud o frethyn metal, sef cymysgedd o wlân a sidan. Mae wir ganddo ryw sglein metelig iddo sy'n anhygoel."

Nid yw Esther yn sicr o ble ddaeth y sidan, ond mae hi'n tybio mai efallai trwy'r llwybrau masnach forwrol ar Ynys Môn. Yn ôl ei gwaith ymchwil, cafodd y brethyn arbennig yma ei wneud ar Ynys Môn neu ganolbarth Gwynedd. "Dyma ddau le hyd yn hyn lle rydym wedi dod o hyd iddo", meddai Esther. "Yn anffodus, nid yw llawer o frethynnau Cymreig fel hyn wedi goroesi.

"Nid ydym chwaith yn sicr pa mor smart oedd y ffrog yma; a'i un i'r tŷ neu un at ddydd Sul, ond caiff y math yma o ffrog ei hadnabod fel 'betgwn', neu 'begwn'."

Mae gan yr amgueddfa darluniau o'r cyfnod gyda chymeriadau yn y cefndir sy'n gwisgo dillad digon tebyg, er mae'n amhosib gwybod os cafodd dillad y merched ei gwneud allan o'r brethyn unigryw yma.

Wrth gael y cyfle i bori drwy gannoedd o arddangosion fel hyn, mae Esther yn mwynhau ei swydd fel curadur. "Mae o'n hŵyl gan fod yna cymaint o bethau yma i'w ymchwilio," meddai Esther. "Dwi heb edrych yn iawn ar hanner y pethau sydd yn y storfeydd yma.

"Dwi'n sicr fod gan bob gwrthrych dwi'n darganfod stori ddiddorol tu ôl iddo, mae o jest yn fater o'i ddarganfod."

Gyda chymaint o bethau i'w ddangos, mae'r amgueddfa yn dewis yr hyn sydd i'w weld pob rhyw chwe mis. Mae pwnc yr arddangosfeydd yn dibynnu ar alw'r cyhoedd, ar gyflwr bregus yr eitemau neu os yw Esther wedi dod o hyd i rywbeth diddorol.

Rhywbeth i edrych ymlaen ato yn y dyfodol yw Coron brenin Enlli, fydd gobeithio yn dod draw o Lerpwl am gyfnod.

Y mae'r amgueddfa hon sy'n cael ei rhedeg gan gyngor Gwynedd, yng nghlwm a'r brifysgol. Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Ffordd Gwynedd, Bangor, Gwynedd, LL57 1DT. Oriau agor yw rhwng 12.30 - 4.30, dydd Mawrth-Gwener, a 10.30 - 4.30 ar ddydd Sadwrn.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy