Un o'r arddangosion yw hofrennydd Westland Whirlwind oedd yn cael ei defnyddio fel rhan o'r gwasanaeth achub yn RAF Fali yn y 1950au a 60au.
"Yn y dyddiau yna, dim ond un injan oedd gan y fath yma o hofrennydd; mae'n rhaid iddynt gael dau er mwyn diogelwch erbyn hyn," dywedodd Terry Patching, curadur yr amgueddfa. "Wrth feddwl gall y gwasanaeth achub rhyw ddeg person mewn diwrnod, mae'n rhaid bod yr hofrennydd yma wedi achub cannoedd dros y blynyddoedd."
Dechreuodd y gwasanaeth achub yn swyddogol yn 1943 ar ôl cyfres o ddamweiniau yn Eryri wrth i'r RAF hyfforddi peilotiaid ar gyfer yr Ail Rhyfel Byd. Aeth Lefftenant George Graham ati i hel cyfarpar achub ac i nodi pob damwain yn yr ardal o'r 30au ymlaen i brofi fod angen y fath wasanaeth yng Nghymru.
"Eryri yw un o'r llefydd mwyaf peryglus i awyrennau ym Mhrydain," meddai Terry. "Nid ydym yn tynnu llawer o sylw at un adran o'r amgueddfa sy'n nodi'r holl ddamweiniau a ddigwyddodd yn yr ardal rhwng y 1930au a'r 1970au fel na fyddai pobl yn ofni hedfan.
"Daeth llawer o'r awyrennau yma o RAF Fali, neu o'r maes awyr yma yng Nghaernarfon, a gafodd ei agor yn 1940. Yr unig awyren fasnachol i ddod lawr oedd yr Aer Lingus yn 1952, pan fu farw bob un o'r 23 oedd arni ar ôl iddi grasho mewn i Foel Siabod.
"Mae o'n anghyfreithlon i gadw malurion o ddamwain awyren gan ei fod yn safle bedd a hefyd, os mai awyren filwrol oedd o, yn eiddo i'r weinyddiaeth amddiffyn. Ond mi gawsom ni caniatâd arbennig ganddynt i ddangos y casgliad yma gafodd ei roi i'r amgueddfa."
Mae Terry wedi bod yn rhedeg yr amgueddfa ers 2001, ac mae cadw pethau i fynd yn sialens. "Pan gychwynnais, roedd yna 11 o amgueddfeydd awyrol yng Nghymru, ond dim ond ni sydd ar ôl rŵan," meddai. Rhaid felly gwneud y gorau o'r gwirfoddolwyr sy'n ei helpu i gynnal a chadw a chreu arddangosfeydd newydd.
Ym mhlith y rhain mae'r dyblygiad o'r 'monoplane' a gafodd ddamwain ym Mhwllheli yn 1911; efallai un o'r damweiniau awyr cyntaf yng Nghymru.
"Roedd o'n perthyn i Mr Astley, a ddaeth a fo i fyny mewn darnau o Lundain a'i rhoi at ei gilydd er mwyn ei ddangos i'r bobl leol," meddai Terry. "Roedd o am ddefnyddio'r traeth, ond wedyn symudodd i gae ger llaw. Yn anffodus, roedd y cae yn rhy fyr iddo godi i'r awyr, ac mi darodd y ffens gyda'r olwynion cyn crasho."
"Rydw i wastad wedi ymddiddori mewn adeiladu awyrennau model," meddai Bryan Grimston, y gwirfoddolwr aeth ati i ail-greu'r awyren arbennig yma. "Roedd o'n wych i gael y cyfle i wneud rhywbeth maint go iawn! Roedd awyrennau o'r cyfnod yn rhai eithaf syml - byddent yn eu hadeiladu yn y garej, felly roedd o'n ddigon rhwydd dilyn y cynlluniau i greu model allan o bren a metel."
Mae Terry hefyd wedi penderfynu rhoi cyfle i'r cyhoedd ddod yn agosach i'r awyrennau nag amgueddfeydd eraill. "Roedd 'na lot o waith iechyd a diogelwch i sortio," meddai," ond roeddwn yn awyddus i adael i bobl cael teimlad go iawn o'r awyrennau, a hyd yn oed eistedd yn sedd peilot os yn bosib."
Oriau agor: 9-6 o ddydd Llun i ddydd Sul.
Cyfeiriad: Maes Awyr Caernarfon, Gwynedd LL54 5TP
Rhif ffon: 01286 830800
Taith lluniau trwy'r amgueddfa.