"Mi wnes i gychwyn casglu pethau o'r Ail Rhyfel Byd pan roeddwn yn wyth mlwydd oed," meddai. "Mi ges i ddarn o shrapnel oedd wedi syrthio o flaen tŷ fy nain a thaid ar Y Wirral, a dwi wedi bod yn casglu pethau hyd hynny.
"Mi wnes i brynu'r adeilad yma yn Llandudno yn 1999, ei wneud i fyny ac agor yr amgueddfa'r flwyddyn wedyn. Dwi'n credu mai hen orsaf tan oedd yma yn ystod y rhyfel."
Mae Adrian wedi penderfynu canolbwyntio ar brofiadau'r sifiliaid ym Mhrydain yn ystod y rhyfel. Mae o felly wedi treulio blynyddoedd yn hel llyfrau dogn, dillad a seirenau cyrch awyr ac yn ail-greu siop groser a stafell fyw tŷ cyffredin yn ystod y cyfnod. Mae o hefyd wedi ail-greu cysgodfa Anderson, er nid oedd angen llawer o'r rhain yn Llandudno. "Roeddent am ddefnyddio'r ogofau ar Happey Valley yn Llandudno," meddai Adrian. "Mae'n bosib jest cerdded i mewn i lot ohonynt a byddent wedi bod yn eithaf diogel."
Gyda'r dref yn llawn milwyr rhyngwladol a gweision sifil, byddai Llandudno wedi bod yn lle prysur iawn yn y 1940s. "Cafodd y Cyllid Gwladol ei symud o Lundain i Landudno," meddai Adrian. "Ddaru nhw gymryd drosodd y gwestai mawr, a theuluoedd y gweithwyr yn byw yn y tai gwely a brecwast yn y dref. Mae'n rhaid eu bod wedi bod yn llawn dop!"
Mae'r arddangosfeydd ar y 'Land Girls' a'r warchodfa gartref yn dangos fod pobl Prydain yn eithaf trefnus wrth i'r rhyfel cychwyn. "Er nad oedd polisi o ddyhuddiad Chamberlain yn un da," meddai Adrian, "ddaru ei lywodraeth yn sicr ddysgu o'r Rhyfel Byd Cyntaf. Adeg yna, roedd Prydain o fewn wythnosau o fod heb fwyd, felly ddaru nhw ddechrau paratoi ar gyfer y rhyfel ym mhell cyn 1939." Oriau agor: 10am - 4.30 pm Llun-Sadwrn, 11am - 3pm Sul, Mawrth 10 - Tachwedd 1.
Cyfeiriad: New St, Llandudno, Gwynedd LL30 2YF
Rhif Ffôn: 01492 871032
 |