Bardd, beirniad, ysgolhaig a golygydd
Bu W.J.Gruffydd yn gawr ymlith llenorion Cymraeg y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd ac yn ddylanwad mawr ar gwrs llên Cymru am flynyddoedd lawer. Yn ysgolhaig, yn olygydd, yn feirniad ac yn fardd, prin oedd y meysydd nad oedd wedi cyffwrdd â nhw, i'r fath raddau roedd yn anochel, gyda threigl amser, bod to newydd o awduron ifainc yn gwthrhyfela'n erbyn y safonau a yr oedd yn eu gosod.
Fe'i ganwyd ym Methel, ym mhlwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, ym 1881, yn fab i chwarelwr.
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle darllennodd y Clasuron a Llenyddiaeth Saesneg.
Yn Rhydychen daeth o dan ddylanwad Sir John Rhys ac O.M.Edwards a feithrinodd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg.
Ym 1906 fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg y Brifysgol, Caerdydd, ac yn Athro Celteg (newidiwyd teitl y swydd i Adran y Gymraeg yn ddiweddarach) ym 1918; arhosodd yno hyd ei ymddeoliad ym 1946.
Rhyddfrydwr
Bu'n amlwg ym mhwllgorau'r Eisteddfod Genedlaethol a penodwyd ef yn Llywydd y Llys ym 1945.
Rhoddai W. J. Gruffydd bwys mawr ar ryddid meddwl ac nid oedd yn barod i ymglymu wrth unrhyw gyfundrefn ddeallusol, boed boliticaidd neu grefyddol.
Cynhyrfodd y dyfroedd yn ddirfawr ym 1943 pan safodd yn enw'r Blaid Rhyddfrydol yn erbyn Saunders Lewis am sedd Prifysgol Cymru, a'i hennill, er mawr ddicter y cenedlaetholwyr.
Mynegodd ei farn radicalaidd yn ddi-flewyn-ar-dafod yn y cylchgrawn chwarterol Y Llenor yr oedd yn olygydd arno o 1922 hyd nes y dirwynwyd ef i ben ym 1951.
Dyma'r cyfnodolyn a arweiniodd y dadeni yn llên ein gwlad yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd: ymddangosodd gwaith bron pob llenor o bwys yn ei dudalennau.
Meddwl aflonydd
Er nad oedd y golygydd yn ei glymu ei hunan wrth unrhyw garfan arbennig, arddelai safonau uchel parthed arddull, orgraff a chystrawen ramadegol.
Serch hynny, mae yna elfen o anghysondeb yn y wahanol safbwyntiau a arddelai'n ystod ei yrfa, yn enwedig parthed y ddau rhyfel byd (roedd yn heddychwr ym 1914 ac yn frwd dros ymladd yn erbyn Hitler ym 1939) - ond meddwl aflonydd a chyfnewidiol oedd gan W.J.Gruffydd, a dweud y lleiaf.
Bardd galluog
Cychwynnodd fel bardd, gyda'r gyfrol Telynegion (1900) ar y cyd â'i gyfaill R. Silyn Roberts, cerddi sy'n llawn teimlad, lliw a synwyrusrwydd, yn y dull Rhamantaidd Seisnig.
Aeth ymlaen i aeddfedu gyda'r cyfrolau Caneuon (1906), Ynys yr Hud (1923) a Caniadau (1932), detholiad a baratôdd ar gyfer Gwasg Gregynog.
Llenor rhyddiaith
Ysgrifennodd ryddiaith coeth a chyfoethog, er mae ei arddull yn taro darllenydd y dwthwn hwn braidd yn anystwyth.
Ei gampwaith yw Hen Atgofion (1936), lle disgrifiodd ei blentyndod a'i febyd, gan fynegi ei farn yn blwmp ac yn blaen ar amrywiaeth o bynciau'r dydd.
Cyhoeddwyd detholiad o'i ysgrifau o dan y teitl Yr Hen Ganrif ym 1991.
Cyhoeddodd hefyd Cofiant Owen M. Edwards (1937) a dwy gyfrol ar hanes barddoniaeth a rhyddiath, sef Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (1922) a Llenyddiaeth Cymru: Rhyddiaith o 1540 hyd 1600 (1926).
Ei brif ddiddordeb ym maes ysgolheictod oedd Pedair Cainc y Mabinogi: cyhoeddodd Math Vab Mathonwy ym 1928 a Rhiannon ym 1953.
Roedd hefyd yn olygydd blodeugerddi dylanwadol: Y Flodeugerdd Newydd (1909) ac Y Flodeugerdd Gymraeg (1931).
Bu farw W.J.Gruffydd ym 1954.
Gwelir plac ar y tŷ, Gorffwysfa, ym Methel, lle ganwyd ef. Mae ei fedd ym mynwent Llanddeiniolen o dan ywen 'hirymharous' ei gerdd enwocaf.
Meic Stephens